Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.” Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.”
Darllen Exodus 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 4:10-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos