Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law. “Gwna hyn,” meddai, “er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Rho dy law yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira. Yna dywedodd Duw, “Rho hi'n ôl yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff. “Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf,” meddai'r ARGLWYDD, “hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd. Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych.”
Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.” Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.” Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.