Pan glywodd Pharo am hyn, ceisiodd ladd Moses, ond ffodd ef oddi wrtho a mynd i fyw i wlad Midian; ac yno eisteddodd i lawr yn ymyl pydew. Yr oedd gan offeiriad Midian saith o ferched, a daethant i godi dŵr er mwyn llenwi'r cafnau a dyfrhau defaid eu tad. Daeth bugeiliaid heibio a'u gyrru oddi yno, ond cododd Moses ar ei draed a'u cynorthwyo i ddyfrhau eu praidd. Pan ddaeth y merched at Reuel eu tad, gofynnodd, “Sut y daethoch yn ôl mor fuan heddiw?” Dywedasant hwythau, “Eifftiwr a ddaeth i'n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a chodi dŵr i ddyfrhau'r praidd.” Yna gofynnodd yntau iddynt, “Ple mae'r dyn? Pam yr ydych wedi ei adael ar ôl? Galwch arno, iddo gael tamaid i'w fwyta.”
Darllen Exodus 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 2:15-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos