Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr. Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?” Atebodd Moses ef, “Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori â Duw. Pan fydd achos yn codi, fe ddônt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau.” Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, “Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu. Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun. Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod â'u hachosion ato ef. Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud. Ond ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.
Darllen Exodus 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 18:13-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos