Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. “Oherwydd,” meddai, “gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.” Felly arweiniodd hwy ar hyd ffordd yr anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, ac aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft gan ddwyn eu harfau rhyfel. Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, oherwydd yr oedd Joseff wedi gosod yr Israeliaid dan lw, drwy ddweud, “Bydd Duw yn sicr o ymweld â chwi, a'r pryd hwnnw yr ydych i ddwyn fy esgyrn oddi yma gyda chwi.” Aethant ymaith o Succoth a gwersyllu yn Etham, ar gwr yr anialwch. Yr oedd yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen mewn colofn o niwl yn ystod y dydd i'w harwain ar y ffordd, ac mewn colofn o dân yn ystod y nos i'w goleuo; felly gallent deithio ddydd a nos. Ni symudwyd y golofn niwl oedd o flaen y bobl yn ystod y dydd na'r golofn dân oedd o'u blaen yn ystod y nos.
Darllen Exodus 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 13:17-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos