Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn. “Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid: “er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.” Chwi dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd. Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw â'ch holl galon. Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion, oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn tâl gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna. Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth.
Darllen Effesiaid 6
Gwranda ar Effesiaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 6:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos