Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn. “Anrhydedda dy dad a'th fam”—hwn yw'r gorchymyn cyntaf ac iddo addewid: “er mwyn iti lwyddo a chael hir ddyddiau ar y ddaear.” Chwi dadau, peidiwch â chythruddo'ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd. Chwi gaethweision, ufuddhewch i'ch meistri daearol mewn ofn a dychryn, mewn unplygrwydd calon fel i Grist, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond fel gweision Crist yn gwneud ewyllys Duw â'ch holl galon. Rhowch wasanaeth ewyllysgar fel i'r Arglwydd, nid i ddynion, oherwydd fe wyddoch y bydd pob un, boed gaeth neu rydd, yn derbyn tâl gan yr Arglwydd am ba ddaioni bynnag a wna. Chwi feistri, gwnewch yr un peth iddynt hwy, gan roi'r gorau i fygwth, oherwydd fe wyddoch fod eu Meistr hwy a chwithau yn y nefoedd, ac nad yw ef yn dangos ffafriaeth. Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef. Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol. Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.
Darllen Effesiaid 6
Gwranda ar Effesiaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Effesiaid 6:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos