Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 5:1-20

Effesiaid 5:1-20 BCND

Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr. Anfoesoldeb rhywiol, a phob aflendid a thrachwant, peidiwch hyd yn oed â'u henwi yn eich plith, fel y mae'n briodol i saint; a'r un modd bryntni, a chleber ffôl, a siarad gwamal, pethau sy'n anweddus. Yn hytrach, geiriau diolch sy'n gweddu i chwi. Gwyddoch hyn yn sicr, nad oes cyfran yn nheyrnas Crist a Duw i neb sy'n puteinio neu'n aflan, nac i neb sy'n drachwantus, hynny yw, yn addoli eilunod. Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eiriau gwag neb; o achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai sy'n anufudd iddo. Peidiwch felly â chyfathrachu â hwy; tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni, oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel. Ond y mae pob peth a ddadlennir gan y goleuni yn dod yn weladwy, oherwydd goleuni yw pob peth a wneir yn weladwy. Am hynny y dywedir: “Deffro, di sydd yn cysgu, a chod oddi wrth y meirw, ac fe dywynna Crist arnat.” Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg. Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd. Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd. Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Effesiaid 5:1-20