Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, ac fe'i cei'n ôl ymhen dyddiau lawer. Rhanna dy gyfran rhwng saith neu wyth, oherwydd ni wyddost pa drychineb a ddaw ar y ddaear. Os yw'r cymylau yn llawn glaw, y maent yn ei arllwys ar y ddaear; os syrth coeden i'r de neu i'r gogledd, y mae'n aros lle y disgyn. Ni fydd yr un sy'n dal sylw ar y gwynt yn hau, na'r un sy'n gwylio'r cymylau yn medi. Megis nad wyt yn gwybod sut y daw bywyd i'r esgyrn yng nghroth y feichiog, felly nid wyt yn deall gwaith Duw, yr Un sy'n gwneud popeth. Hau dy had yn y bore, a phaid â gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo, neu a fydd y cyfan yn dda. Y mae goleuni'n ddymunol, a phleser i'r llygaid yw gweld yr haul. Os bydd rhywun fyw am flynyddoedd maith, bydded iddo fwynhau'r cyfan ohonynt; ond fe ddylai gofio y bydd dyddiau tywyllwch yn niferus. Y mae'r cyfan sy'n digwydd yn wagedd. Ŵr ifanc, bydd lawen yn dy ieuenctid, a bydded iti fwynhad yn nyddiau dy lencyndod; rhodia yn ôl dymuniad dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, ond cofia y bydd Duw yn dy alw i farn am hyn i gyd. Symud ddicter o'th galon, a thro flinder oddi wrthyt; y mae mebyd ac ieuenctid yn wagedd.
Darllen Y Pregethwr 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Pregethwr 11:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos