Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Pregethwr 10:1-20

Y Pregethwr 10:1-20 BCND

Fel y mae pryfed meirw yn gwneud i ennaint y peraroglydd ddrewi, felly y mae ychydig ffolineb yn tynnu oddi wrth ddoethineb ac anrhydedd. Y mae calon y doeth yn ei arwain i'r dde, ond calon y ffôl yn ei droi i'r chwith. Pan yw'r ffôl yn cerdded ar y ffordd, nid oes synnwyr ganddo, ac y mae'n dweud wrth bawb ei fod yn ynfyd. Os enynnir llid y llywodraethwr yn dy erbyn, paid ag ymddiswyddo; y mae pwyll yn tymheru troseddau mawr. Gwelais beth drwg dan yr haul, sef camgymeriad yn deillio oddi wrth y llywodraethwr: ffŵl wedi ei osod mewn safleoedd pwysig, a'r cyfoethog wedi eu gosod yn israddol. Gwelais weision ar geffylau, a thywysogion yn cerdded fel gweision. Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a'r sawl sy'n chwalu clawdd yn cael ei frathu gan neidr. Y mae'r un sy'n symud cerrig yn cael niwed ganddynt, a'r sawl sy'n hollti coed yn cael dolur ganddynt. Os yw bwyell yn ddi-fin, a heb ei hogi, yna rhaid defnyddio mwy o nerth; ond y mae medr yn dod â llwyddiant. Os na swynir neidr cyn iddi frathu, nid oes mantais o gael swynwr. Y mae geiriau'r doeth yn ennill ffafr, ond geiriau'r ffôl yn ei ddinistrio. Y mae ei eiriau'n dechrau yn ffôl, ac yn diweddu mewn ynfydrwydd llwyr, a'r ffŵl yn amlhau geiriau. Nid oes neb yn gwybod beth a ddaw, a phwy a all ddweud wrth neb beth fydd ar ei ôl? Y mae llafur y ffôl yn ei wneud yn lluddedig, ac ni ŵyr sut i fynd i'r ddinas. Gwae di, wlad, pan fydd gwas yn frenin arnat, a'th dywysogion yn gwledda yn y bore! Gwyn dy fyd, wlad, pan fydd dy frenin yn fab pendefig, a'th dywysogion yn gwledda ar yr amser priodol, a hynny i gryfhau ac nid i feddwi! Y mae'r trawstiau'n dadfeilio o ganlyniad i ddiogi, a'r tŷ'n gollwng o achos llaesu dwylo. I gael llawenydd y paratoir gwledd, ac y mae gwin yn llonni bywyd, ac arian yn ateb i bopeth. Paid â melltithio'r brenin yn dy feddwl, na'r cyfoethog yn dy ystafell wely, oherwydd gall adar yr awyr gario dy lais, a pherchen adain fynegi'r hyn a ddywedi.