Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem. Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch. Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ar goll. Dywedais wrthyf fy hun, “Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth.” Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt. Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid, ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.
Darllen Y Pregethwr 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Pregethwr 1:12-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos