Gan na welsoch unrhyw ffurf, y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân yn Horeb, gofalwch beidio â gweithredu'n llygredig trwy wneud i chwi eich hunain ddelw ar ffurf unrhyw fath ar gerflun, na ffurf dyn na gwraig, nac unrhyw anifail ar y ddaear, nac unrhyw aderyn sy'n hedfan yn yr awyr, nac unrhyw beth sy'n ymlusgo ar y ddaear, nac unrhyw bysgodyn sydd yn y dŵr dan y ddaear. Gwylia hefyd na fyddi'n codi dy olwg i'r nefoedd ac edrych ar yr haul, y lleuad neu'r sêr, holl lu'r nefoedd, a chael dy ddenu i ymgrymu iddynt a'u haddoli; neilltuodd yr ARGLWYDD dy Dduw y rhain ar gyfer yr holl bobloedd dan y nefoedd. Ond cymerodd yr ARGLWYDD chwi, a daeth â chwi allan o'r ffwrnais haearn, o'r Aifft, i fod yn bobl sy'n etifeddiaeth iddo'i hun, fel yr ydych heddiw.
Darllen Deuteronomium 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Deuteronomium 4:15-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos