Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 30

30
Amodau Adferiad a Bendith
1Pan fydd yr holl bethau hyn wedi digwydd iti, a thithau'n dwyn ar gof i ti dy hun, ymysg yr holl genhedloedd y gyrrodd yr ARGLWYDD dy Dduw di atynt, y dewis a roddais iti rhwng bendith a melltith; 2os byddi'n troi'n ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid, a thi a'th blant yn gwrando ar ei lais, yn union fel yr wyf yn gorchymyn iti heddiw, 3yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn adfer llwyddiant iti ac yn tosturio wrthyt, ac yn dy gasglu eto o blith yr holl genhedloedd y gwasgarodd di ynddynt. 4Pe byddit wedi dy yrru i'r cwr pellaf dan y nef, byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy gasglu ac yn dy gymryd oddi yno. 5Daw'r ARGLWYDD dy Dduw â thi i'r wlad a feddiannodd dy hynafiaid, a byddi dithau'n ei meddiannu; bydd ef yn dy lwyddo ac yn dy wneud yn fwy niferus na'th hynafiaid. 6Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn enwaedu dy galon, a chalonnau dy ddisgynyddion, er mwyn iti garu yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid, fel y byddi fyw. 7A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn gosod yr holl felltithion hyn ar dy elynion a'th gaseion, a fu'n dy erlid. 8Byddi di unwaith eto'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD ac yn cadw ei holl orchmynion, y rhai yr wyf fi'n eu rhoi iti heddiw. 9Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn peri iti lwyddo'n helaeth ym mhopeth a wnei, ac yn ffrwyth dy gorff, a chynnydd dy fuches a chnwd dy dir; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn ymhyfrydu eto ynot er dy les, fel y bu'n ymhyfrydu yn dy hynafiaid, 10dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw i gadw ei orchmynion a'i reolau, a ysgrifennwyd yn y llyfr cyfraith hwn, a dychwelyd at yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid.
11Nid yw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw yn rhy anodd iti nac allan o'th gyrraedd. 12Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, “Pwy a â i fyny i'r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?” 13Nid rhywbeth y tu hwnt i'r môr yw ychwaith, iti ddweud, “Pwy a â dros y môr ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?” 14Y mae'r gair yn agos iawn atat; y mae yn dy enau ac yn dy galon, er mwyn iti ei wneud.
15Edrych, yr wyf am roi'r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni. 16Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu. 17Ond os byddi'n troi i ffwrdd ac yn peidio â gwrando, ac yn cael dy ddenu i addoli a gwasanaethu duwiau estron, 18yna, dyma fi'n dweud wrthyt heddiw, fe'th lwyr ddifodir di, ac nid estynnir dy ddyddiau yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu. 19Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion, 20gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 30: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda