Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 26

26
Offrwm Cynhaeaf
1Pan ddoi i'r wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti'n etifeddiaeth, a thithau'n ei meddiannu ac yn byw ynddi, 2yna cymer o flaenffrwyth holl gnydau'r tir y byddi'n eu casglu yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti, a gosod hwy mewn cawell, a mynd i'r lle y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw. 3Dos at yr offeiriad a fydd yr adeg honno, a dywed wrtho, “Yr wyf heddiw'n datgan gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw imi ddod i'r wlad yr addawodd yr ARGLWYDD i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni.” 4Yna fe gymer yr offeiriad y cawell o'th law, a'i osod gerbron allor yr ARGLWYDD dy Dduw. 5Yr wyt tithau wedyn i ddweud gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, “Aramead ar grwydr oedd fy nhad; aeth i lawr i'r Aifft gyda mintai fechan, a byw yno'n ddieithryn, ond tyfodd yn genedl fawr, rymus a lluosog. 6Yna bu'r Eifftiaid yn ein cam-drin a'n cystuddio a'n cadw mewn caethiwed caled. 7Wedi inni weiddi ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, fe glywodd ein cri, a gwelodd ein cystudd a'n llafur caled a'n gorthrwm. 8Daeth â ni allan o'r Aifft â llaw gadarn a braich estynedig, a chyda dychryn mawr a chydag arwyddion a rhyfeddodau. 9Daeth â ni i'r lle hwn, a rhoi inni'r wlad hon, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 10Ac yn awr dyma fi'n dod â blaenffrwyth cnydau'r tir a roddaist imi, O ARGLWYDD.” Rho'r cawell i lawr gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, a moesymgryma o'i flaen. 11Yr wyt ti a'r Lefiad, a'r dieithryn fydd yno gyda thi, i lawenhau am yr holl bethau da a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti a'th deulu.
12Pan fyddi wedi gorffen degymu dy holl gynnyrch yn y drydedd flwyddyn, sef blwyddyn y degwm, rho ef i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, iddynt gael bwyta'u gwala yn dy drefi. 13A dywed gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, “Yr wyf wedi gwacáu'r tŷ o'r hyn oedd wedi ei gysegru, ac wedi ei roi i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, yn union fel y gorchmynnaist imi; nid wyf wedi troseddu yn erbyn yr un o'th orchmynion na'u hanghofio. 14Nid wyf wedi bwyta dim o'r peth cysegredig tra bûm yn galaru, na symud dim ohono tra oeddwn yn aflan, nac offrymu dim ohono i'r marw. Yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD fy Nuw, ac wedi gwneud yn union fel y gorchmynnaist imi. 15Edrych i lawr o'th breswylfod sanctaidd yn y nef, a bendithia dy bobl Israel a'r tir a roddaist inni yn ôl d'addewid i'n hynafiaid, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.”
Pobl Arbennig yr ARGLWYDD
16Y dydd hwn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn gorchymyn iti gadw'r rheolau a'r deddfau hyn, a gofalu eu cyflawni â'th holl galon ac â'th holl enaid. 17Yr wyt yn cydnabod heddiw mai'r ARGLWYDD yw dy Dduw ac y byddi'n rhodio yn ei lwybrau ac yn cadw ei reolau, ei orchmynion a'i ddeddfau, ac yn ufuddhau iddo. 18Y mae'r ARGLWYDD yntau yn cydnabod wrthyt heddiw dy fod yn bobl arbennig iddo'i hun, fel yr addawodd wrthyt, ond iti gadw ei holl orchmynion. 19Bydd yn dy osod yn uwch o ran clod, enw ac anrhydedd na'r holl genhedloedd a greodd, ac yn bobl gysegredig i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel y dywedodd.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd