Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 24

24
Ysgaru ac Ailbriodi
1Os bydd dyn wedi cymryd gwraig a'i phriodi, a hithau wedyn heb fod yn ei fodloni am iddo gael rhywbeth anweddus ynddi, yna y mae i ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i dŷ. 2Wedi iddi adael ei dŷ, os daw yn wraig i rywun arall, 3a hwnnw wedyn yn ei chasáu ac yn ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i dŷ, neu os bydd yr ail ŵr yn marw, 4yna ni all ei phriod cyntaf, a oedd wedi ei hysgaru, ei hailbriodi wedi iddi gael ei halogi. Byddai hynny'n beth ffiaidd gerbron yr ARGLWYDD, ac nid ydych i ddwyn pechod ar y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n feddiant ichwi.
Amrywiol Ddeddfau
5Os bydd dyn newydd briodi, nid yw i fynd i ffwrdd gyda'r fyddin nac ar ddyletswyddau eraill; y mae'n rhydd i aros gartref am flwyddyn gron a bod yn llawen gyda'i wraig.
6Nid yw neb i gymryd melin na maen uchaf melin yn wystl, oherwydd byddai'n cymryd bywoliaeth rhywun yn wystl.
7Os ceir bod rhywun wedi herwgipio un o'i gydwladwyr yn Israel, a'i amddifadu o'i hawliau trwy ei werthu, yna y mae'r herwgipiwr hwnnw i farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
8Mewn achos o wahanglwyf, gofalwch wneud popeth yn ôl fel y bydd yr offeiriaid o Lefiaid yn eich cyfarwyddo; gofalwch wneud yn union fel y gorchmynnais i iddynt. 9Cofiwch yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Miriam wrth ichwi ddod o'r Aifft.
10Os byddi'n rhoi benthyg unrhyw beth i'th gymydog, paid â mynd i mewn i'w dŷ i gymryd ei wystl. 11Saf y tu allan, a gad i'r sawl yr wyt yn rhoi benthyg iddo ddod â'i wystl allan atat. 12Os yw'n dlawd, paid â chysgu yn y dilledyn a roddodd yn wystl; 13gofala ei roi'n ôl iddo cyn machlud haul, er mwyn iddo gysgu yn ei fantell a'th fendithio. Cyfrifir hyn iti'n gyfiawnder gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.
14Paid â gorthrymu gwas cyflog anghenus a thlawd, boed gydwladwr neu ddieithryn yn un o drefi dy wlad. 15Rho ei gyflog iddo bob dydd cyn i'r haul fachlud, rhag iddo achwyn arnat wrth yr ARGLWYDD ac i ti dy gael yn euog o bechod, oherwydd y mae'n anghenus ac yn dibynnu arno.
16Nid yw rhieni i'w rhoi i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir rhywun i farwolaeth.
17Nid wyt i wyro barn yn achos dieithryn nac amddifad, nac i gymryd dilledyn y weddw fel gwystl. 18Cofia mai caethwas fuost yn yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy waredu oddi yno; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti wneud hyn.
19Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid â throi'n ôl i'w chyrchu; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, er mwyn i'r ARGLWYDD dy Dduw dy fendithio yn holl waith dy ddwylo.
20Pan fyddi'n curo'r ffrwyth oddi ar dy olewydden, paid â lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw.
21Pan fyddi'n casglu ffrwyth dy winllan, paid â lloffa wedyn; gad y gweddill yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw. 22Cofia mai caethwas fuost yng ngwlad yr Aifft; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti wneud hyn.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd