Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 20

20
Rhyfel Sagral
1Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn dy elynion, ac yn canfod meirch a cherbydau a byddin, a'r rheini'n gryfach na'th rai di, paid â'u hofni, oherwydd gyda thi y mae yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft. 2Wrth iti ddynesu i'r frwydr, y mae'r offeiriaid i ddod ymlaen ac annerch y fyddin, 3a dweud wrthynt, “Gwrandewch, Israel, yr ydych ar fin ymladd brwydr yn erbyn eich gelynion; peidiwch â gwangalonni nac ofni, na dychryn nac arswydo rhagddynt, 4oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd gyda chwi, i frwydro trosoch yn erbyn eich gelynion, ac i'ch gwaredu.” 5Yna bydd y swyddogion yn annerch ac yn dweud wrth y fyddin, “Pwy bynnag sydd wedi adeiladu tŷ newydd ond heb ei gysegru, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei gysegru. 6A phwy bynnag sydd wedi plannu gwinllan ond heb fwynhau ei ffrwyth, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei fwynhau. 7A phwy bynnag sydd wedi dyweddïo â merch ond heb ei phriodi, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei phriodi.” 8Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, “Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei ôl adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd.” 9Wedi i'r swyddogion orffen annerch y fyddin, byddant yn gosod capteiniaid dros luoedd y fyddin.
10Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi. 11Os derbyniant y telerau heddwch ac agor y pyrth iti, yna bydd pawb a geir ynddi yn gweithio iti dan lafur gorfod. 12Os na dderbyniant delerau heddwch, ond dechrau rhyfela yn dy erbyn, yna gwarchae ar y dref; 13a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi yn dy law, lladd bob gwryw ynddi â'r cleddyf. 14Ond cymer yn anrhaith y gwragedd, y plant, yr anifeiliaid a phopeth arall o ysbail sydd yn y dref; defnyddia i ti dy hun yr ysbail oddi wrth d'elynion y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi iti. 15Dyna sut y gwnei i'r holl drefi sydd ymhellach oddi wrthyt na rhai'r cenhedloedd gerllaw. 16Nid wyt i arbed unrhyw greadur byw yn ninasoedd y bobloedd hynny y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi iti'n etifeddiaeth. 17Yr wyt i lwyr ddifodi'r Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw, 18rhag iddynt dy ddysgu i wneud yr holl ffieidd-dra a wnânt hwy er mwyn eu duwiau, ac i ti bechu yn erbyn yr ARGLWYDD dy Dduw.
19Pan fydd tref dan warchae gennyt am amser maith, a thithau'n ymladd i'w hennill, paid â difa ei choed trwy eu torri â bwyell. Cei fwyta o'u ffrwyth, ond paid â'u torri i lawr. Ai pobl yw coed y maes, iti osod gwarchae yn eu herbyn? 20Dim ond coeden y gwyddost nad yw'n dwyn ffrwyth y cei ei difa a'i thorri, er mwyn iti godi gwrthglawdd rhyngot a'r ddinas sy'n rhyfela yn dy erbyn, nes y bydd honno wedi ei gorchfygu.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 20: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd