Deuteronomium 2
2
Y Daith trwy'r Anialwch
1Yna troesom a mynd i'r anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyf, a buom yn teithio o gwmpas mynydd-dir Seir am ddyddiau lawer. 2Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, 3“Yr ydych wedi teithio'n ddigon hir o gwmpas y mynydd-dir hwn; trowch yn awr i'r gogledd. 4Gorchymyn i'r bobl a dweud wrthynt, ‘Yr ydych yn mynd i deithio trwy diriogaeth eich perthnasau, tylwyth Esau, sy'n byw yn Seir. 5Y maent yn eich ofni, ond gofalwch beidio ag ymosod arnynt, oherwydd ni roddaf i chwi gymaint â lled troed o'u tir, am fy mod wedi rhoi mynydd-dir Seir yn etifeddiaeth i Esau. 6Talwch ag arian am y bwyd a brynwch ganddynt i'w fwyta, a'r un modd am y dŵr a yfwch.’ 7Y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio yn y cyfan a wnaethost, ac wedi gwylio dy daith yn yr anialwch mawr hwn; am y deugain mlynedd hyn bu'r ARGLWYDD dy Dduw gyda thi, ac ni fu arnat eisiau dim.” 8Yna aethom oddi wrth ein perthnasau, tylwyth Esau, a oedd yn byw yn Seir, ac o ffordd yr Araba, ac o Elath ac Esion-geber, a throi i gyfeiriad anialwch Moab. 9Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf eto, “Paid â chythruddo'r Moabiaid, na bygwth ymladd yn eu herbyn, oherwydd ni roddaf feddiant i ti o'u tir, am fy mod wedi rhoi Ar yn feddiant i dylwyth Lot.” 10Cyn hynny yr oedd yr Emim, dynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim, yn byw yno. 11Ystyrid hwythau'n Reffaim fel yr Anacim, ond bod y Moabiaid yn eu galw'n Emim. 12A hefyd yn yr amser gynt yr oedd yr Horiaid yn byw yn Seir, ond cymerodd tylwyth Esau eu tiriogaeth a'u difa hwy o'u blaen, a byw yno yn eu lle, fel y gwnaeth yr Israeliaid yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD yn feddiant iddynt. 13A dywedodd yr ARGLWYDD, “Yn awr paratowch i groesi nant Sared.” Felly aethom dros nant Sared. 14Cymerodd ddeunaw mlynedd ar hugain inni deithio o Cades-barnea nes croesi nant Sared; erbyn hynny yr oedd y cyfan o genhedlaeth y rhyfelwyr wedi darfod o'r gwersyll, fel y tyngodd yr ARGLWYDD wrthynt. 15Yn wir yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn eu herbyn, i'w difa'n llwyr o'r gwersyll.
16Wedi marw y cyfan o'r rhyfelwyr o blith y bobl, 17dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, 18“Heddiw yr wyt i groesi terfyn Moab yn ymyl Ar. 19Pan ddoi at ffin yr Ammoniaid, paid â'u cythruddo na'u bygwth, oherwydd ni roddaf feddiant o'u tir i ti, am fy mod wedi ei roi yn feddiant i dylwyth Lot.” 20(Ystyrid hwn hefyd yn dir y Reffaim, am mai'r Reffaim oedd yn byw yno yn yr amser gynt, ond yr oedd yr Ammoniaid yn eu galw'n Samsumim. 21Yr oeddent hwy yn ddynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim; ond fe ddifawyd y Reffaim gan yr ARGLWYDD, a chymerodd yr Ammoniaid feddiant o'u tir, a byw yno. 22Gwnaeth yr ARGLWYDD yr un fath i feibion Esau oedd yn byw yn Seir, pan ddifaodd yr Horiaid o'u blaen, a chymerasant hwythau feddiant o'u tir, a byw yno hyd heddiw. 23Y Cafftorim a ymfudodd o Cafftor a ddifaodd yr Afiaid oedd yn byw yn y pentrefi yn ymyl Gasa, ac yna byw yn eu tiriogaeth.) 24“Cychwynnwch yn awr ar eich taith, a chroeswch nant Arnon. Edrych, yr wyf yn rhoi Sihon yr Amoriad, brenin Hesbon, a'i wlad yn dy law. Dos ati i'w meddiannu, ac ymosod arno. 25Heddiw fe ddechreuaf wneud i'r holl bobloedd dan y nefoedd ofni ac arswydo o'th flaen; pan glywant sôn amdanat, byddant yn crynu ac yn arswydo o'th flaen.”
Concro Sihon Brenin Hesbon
Num. 21:21–30
26Yna anfonais negeswyr o anialwch Cedemoth at Sihon brenin Hesbon gyda geiriau heddychlon, 27“Gad imi deithio trwy dy dir ar hyd y briffordd; fe deithiaf arni heb droi i'r dde na'r chwith. 28Cei werthu imi am arian y bwyd y byddaf yn ei fwyta, a chei arian gennyf am y dŵr a roi imi i'w yfed; yn unig rho ganiatâd imi deithio ar droed trwy dy dir, 29fel y rhoddodd tylwyth Esau sy'n byw yn Seir imi, a hefyd y Moabiaid sy'n byw yn Ar, nes imi groesi'r Iorddonen i'r wlad y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoi inni.” 30Ond nid oedd Sihon brenin Hesbon yn fodlon inni deithio trwodd, oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi caledu ei ysbryd a gwneud ei galon yn ystyfnig er mwyn ei roi yn eich llaw chwi, fel y mae heddiw. 31Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Edrych, yr wyf wedi dechrau rhoi Sihon a'i dir i ti; dos ati i gymryd meddiant o'i wlad.” 32Daeth Sihon a'i holl fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Jahas; 33a rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw ef yn ein dwylo, a lladdasom ef a'i feibion a'i holl fyddin. 34Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd, a difa'n llwyr bawb oedd ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a plant. Ni adawsom neb ar ôl, 35ond cymryd y gwartheg yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd a orchfygwyd gennym. 36O Aroer, a oedd ar lan nant Arnon, cyn belled â Gilead a'r ddinas oedd yn y dyffryn, nid oedd yr un gaer yn rhy gadarn inni. Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw y cyfan ohonynt yn ein dwylo. 37Ond nid aethoch yn agos i wlad yr Ammoniaid, oddeutu nant Jabboc, nac ychwaith i ddinasoedd y mynydd-dir, nac i unrhyw le a waharddodd yr ARGLWYDD ein Duw inni.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 2: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004