Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 19

19
Dinasoedd Noddfa
Num. 35:9–28; Jos. 20:1–9
1Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi difa'r cenhedloedd y mae'n rhoi eu tir iti, a thithau'n ei feddiannu ac yn byw yn eu trefi a'u tai, 2yr wyt i neilltuo ar dy gyfer dair dinas yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu. 3Paratoa ffordd atynt, a rhannu'n dair y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w hetifeddu, fel y caiff pob lleiddiad le i ddianc. 4Dyma'r math o leiddiad a gaiff ffoi yno ac arbed ei fywyd: yr un fydd yn lladd arall yn ddifwriad, heb fod yn ei gasáu o'r blaen; 5er enghraifft, rhywun fydd yn mynd gyda'i gymydog i'r goedwig i dorri coed, ac wrth iddo estyn ei law gyda'r fwyell i dorri coeden, y mae pen y fwyell yn neidio oddi ar y pren ac yn rhoi ergyd farwol i'w gymydog. Caiff hwn ffoi i un o'r dinasoedd hyn ac arbed ei fywyd, 6rhag i'r dialydd gwaed yn ei gynddaredd ddilyn y lleiddiad a'i ddal oherwydd meithder y daith, a'i daro'n farw, er nad oedd yn haeddu marw, am nad oedd yn casáu ei gymydog o'r blaen. 7Dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti neilltuo tair dinas. 8Os bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn estyn dy derfynau, fel y tyngodd i'th hynafiaid y gwnâi, ac yn rhoi iti'r holl wlad a addawodd i'th hynafiaid, 9oherwydd iti ofalu cadw'r cwbl o'r gorchymyn hwn yr wyf yn ei roi iti heddiw, i garu'r ARGLWYDD dy Dduw a cherdded yn ei ffyrdd bob amser, yna rwyt i ychwanegu tair dinas arall at y tair cyntaf. 10Nid yw gwaed y dieuog i'w dywallt o fewn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth, rhag iti fod yn euog o dywallt gwaed.
11Os bydd rhywun yn casáu ei gymydog ac yn ymosod yn llechwraidd arno a'i anafu mor ddifrifol nes ei fod yn marw, ac yna yn dianc i un o'r dinasoedd hyn, 12y mae henuriaid ei dref i anfon rhai i'w gyrchu oddi yno a'i drosglwyddo i'r dialydd gwaed; a bydd farw. 13Nid wyt i dosturio wrtho, ond i ddileu o Israel euogrwydd am dywallt gwaed y dieuog, er mwyn iddi fod yn dda arnat.
Symud Hen Derfyn
14Paid â symud terfyn dy gymydog, a osodwyd o'r dechrau yn yr etifeddiaeth a gefaist yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti i'w meddiannu.
Tystion
15Nid yw un tyst yn ddigon yn erbyn neb mewn unrhyw achos o drosedd neu fai, beth bynnag fo'r bai a gyflawnwyd; ond fe saif tystiolaeth dau neu dri. 16Os bydd tyst maleisus yn codi yn erbyn rhywun i'w gyhuddo o gamwri, 17safed y ddau sy'n ymrafael yng ngŵydd yr ARGLWYDD, gerbron yr offeiriaid a'r barnwyr ar y pryd. 18Holed y barnwyr yn ddyfal, ac os ceir mai gau dyst ydyw a'i fod wedi dwyn gau dystiolaeth yn erbyn ei gymydog, 19gwneler iddo yr hyn y bwriadodd ef ei wneud i'w gymydog; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg. 20Pan glyw y lleill, bydd arnynt ofn a pheidiant â gwneud y fath ddrwg mwyach. 21Nid wyt i ddangos tosturi; bywyd am fywyd, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd