Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 14

14
Gwahardd Dull o Alaru
1Plant i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi; peidiwch â'ch archolli eich hunain na gwneud eich talcen yn foel dros y marw. 2Pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi o holl bobloedd y byd i fod yn bobl arbennig iddo'i hun.
Anifeiliaid Glân ac Aflan
Lef. 11:1–47
3Nid ydych i fwyta dim ffiaidd. 4Dyma'r anifeiliaid y cewch eu bwyta: eidion, dafad, gafr, 5carw, ewig, iwrch, gafr wyllt, gafr hirgorn, gafrewig a hydd. 6Cewch fwyta pob anifail sy'n hollti'r ddau ewin ac yn eu fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil. 7Ond nid ydych i fwyta'r rhai sy'n cnoi cil yn unig neu'n hollti'r ewin fforchog yn unig, sef camel, ysgyfarnog, broch; am eu bod yn cnoi cil ond heb fforchi'r ewin y maent yn aflan ichwi. 8Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin, heb gnoi cil; y mae'n aflan i chwi. Nid ydych i fwyta'u cig, na chyffwrdd â'u cyrff.
9O'r holl greaduriaid sy'n byw mewn dŵr, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen. 10Ond popeth sydd heb esgyll na chen, ni chewch ei fwyta; y mae'n aflan i chwi.
11Cewch fwyta pob aderyn glân. 12A dyma'r rhai na chewch eu bwyta: yr eryr, y fwltur, eryr y môr, 13y boda, y barcud, unrhyw fath o gudyll, 14unrhyw fath o frân, 15yr estrys, y frân nos, yr wylan, unrhyw fath o hebog, 16y dylluan, y dylluan wen, y gigfran, 17y pelican, y fwltur mawr, y fulfran, 18y ciconia ac unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.
19Y mae unrhyw bryf adeiniog yn aflan i chwi; nid ydych i'w fwyta. 20Cewch fwyta unrhyw beth adeiniog glân. 21Peidiwch â bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch â berwi myn yn llaeth ei fam.
Deddf y Degwm
22Bob blwyddyn gofala ddegymu holl gynnyrch dy had sy'n tyfu yn dy faes. 23Yr wyt i fwyta dy ddegwm o ŷd, gwin ac olew, a chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, er mwyn iti ddysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw bob amser. 24Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio, os bydd yn ormod o daith iti fedru cludo'r degwm, am dy fod yn rhy bell o'r man a ddewisir gan yr ARGLWYDD dy Dduw i osod ei enw, 25yna rho ei werth mewn arian. Cymer yr arian gyda thi, a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei ddewis, 26a phrynu beth bynnag a fynni: gwartheg, defaid, gwin, diod feddwol, neu unrhyw beth yr wyt yn ei ddymuno; a bwyta ef yno'n llawen gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, ti a'th deulu. 27Paid ag esgeuluso'r Lefiaid sydd yn dy drefi, oherwydd nid oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi.
28Ar ddiwedd pob tair blynedd tyrd â degwm dy holl gynnyrch am y flwyddyn honno, a'i gadw yn dy dref. 29Caiff y Lefiaid, nad oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi, a'r dieithryn a'r amddifad a'r weddw yn dy dref, ddod a bwyta'u gwala; a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio di yn y cwbl yr wyt yn ei wneud.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd