Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 1:21-33

Deuteronomium 1:21-33 BCND

Edrych, y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi'r wlad iti; dos i fyny, a meddianna hi fel y dywedodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid, wrthyt. Paid ag ofni nac arswydo.” Ond fe ddaethoch chwi i gyd ataf a dweud, “Gad inni anfon dynion o'n blaen i chwilio'r wlad, a dod ag adroddiad inni am y ffordd yr awn i fyny iddi, a hefyd am y dinasoedd yr awn iddynt.” Yr oedd hyn yn dderbyniol yn fy ngolwg, a dewisais ddeuddeg o ddynion o'ch plith, un o bob llwyth. Fe aethant hwy a theithio i fyny i'r mynydd-dir, a mynd hyd at ddyffryn Escol, a'i chwilio. Casglasant beth o ffrwythau'r tir, a dod â hwy atom, ac adrodd mai gwlad dda oedd yr un yr oedd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoi inni. Ond nid oeddech chwi'n fodlon mynd i fyny, a gwrthryfelasoch yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw. Yr oeddech yn grwgnach yn eich pebyll, ac yn dweud, “Am fod yr ARGLWYDD yn ein casáu y daeth â ni allan o wlad yr Aifft a'n rhoi yn nwylo'r Amoriaid i'n difa. Sut yr awn ni i fyny yno? Y mae ein brodyr wedi ein digalonni trwy ddweud fod y bobl yn fwy ac yn dalach na ni, a bod y dinasoedd yn fawr gyda chaerau cyn uched â'r nefoedd, ac iddynt weld disgynyddion yr Anacim yno.” Yna dywedais wrthych, “Peidiwch ag arswydo nac ofni o'u hachos. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaen, ac ef fydd yn ymladd trosoch, fel y gwnaeth yn eich gŵydd yn yr Aifft, a hefyd yn yr anialwch lle gwelsoch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich cario, fel y bydd dyn yn cario ei fab ei hun, bob cam o'r ffordd yr oeddech yn ei theithio nes dod i'r lle hwn.” Ond er hyn, nid oeddech chwi yn ymddiried yn yr ARGLWYDD eich Duw, a oedd yn mynd o'ch blaen ar y ffordd, mewn tân yn y nos i chwilio am le ichwi wersyllu, ac mewn cwmwl yn y dydd i ddangos ichwi'r ffordd i'w dilyn.