Deuteronomium 1
1
Gadael Horeb
1Dyma'r geiriau a lefarodd Moses wrth Israel gyfan y tu hwnt i'r Iorddonen yn anialwch yr Araba gyferbyn â Suff, rhwng Paran a Toffel a Laban, Haseroth a Disahab. 2Y mae taith un diwrnod ar ddeg o Horeb trwy fynydd-dir Seir hyd at Cades-barnea. 3Ar y dydd cyntaf o'r unfed mis ar ddeg, yn y ddeugeinfed flwyddyn, llefarodd Moses wrth yr Israeliaid y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo. 4Yr oedd hyn wedi iddo orchfygu Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon, ac wedi iddo hefyd orchfygu Og brenin Basan, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei. 5Y tu hwnt i'r Iorddonen yng ngwlad Moab y dechreuodd Moses egluro'r gyfraith hon, a dywedodd wrthynt, 6Llefarodd yr ARGLWYDD ein Duw wrthym yn Horeb: “Yr ydych wedi aros digon yn ymyl y mynydd hwn. 7Paratowch i fynd ar eich taith, ac ewch i fynydd-dir yr Amoriaid, ac at eu cymdogion yn yr Araba, yn y mynydd-dir, y Seffela a'r Negef ac ar lan y môr, gwlad y Canaaneaid, a hefyd i Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates. 8Edrychwch, yr wyf yn rhoi'r wlad i chwi; ewch i mewn a meddiannwch y wlad y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch tadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iddynt hwy ac i'w plant ar eu hôl.”
Penodi Barnwyr
Ex. 18:13–27
9Yr adeg honno fe ddywedais wrthych, “Ni allaf eich cynnal fy hunan. 10Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'ch gwneud yn lluosog, a dyma chwi heddiw mor niferus â sêr y nefoedd. 11Bydded i'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, eich lluosogi filwaith eto, a'ch bendithio fel yr addawodd i chwi. 12Sut y gallaf gymryd arnaf fy hun eich poenau a'ch beichiau a'ch ymryson? 13Dewiswch o blith eich llwythau ddynion doeth, deallus a phrofiadol, a gosodaf hwy yn benaethiaid arnoch.” 14Eich ymateb i mi oedd dweud, “Y mae'r hyn a ddywedaist wrthym am ei wneud yn awgrym da.” 15Yna cymerais benaethiaid eich llwythau, dynion doeth a phrofiadol, a gosodais hwy yn benaethiaid arnoch, yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant, ac o ddeg, a hwy oedd llywodraethwyr eich llwythau. 16Yr adeg honno rhoddais orchymyn i'ch barnwyr, a dweud wrthynt, “Yr ydych i wrando ar achosion eich pobl, ac i farnu'n gyfiawn rhyngoch chwi a'ch gilydd, a hefyd rhyngoch chwi a'r dieithriaid sy'n byw yn eich plith. 17Byddwch yn ddiduedd mewn barn, a gwrandewch ar y distadl yn ogystal â'r pwysig. Peidiwch ag ofni unrhyw un, oherwydd eiddo Duw yw barn. Os bydd achos yn rhy anodd i chwi, dygwch ef ataf fi, a gwrandawaf fi arno.” 18Yr adeg honno hefyd fe orchmynnais i chwi yr holl bethau yr oeddech i'w gwneud.
Anfon Ysbiwyr
Num. 13:1–33
19Fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw inni, gadawsom Horeb, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir yr Amoriaid, gan deithio trwy'r cyfan o'r anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw a welsoch chwi, a daethom i Cades-barnea. 20A dywedais wrthych, “Yr ydych wedi dod i fynydd-dir yr Amoriaid, y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei roi inni. 21Edrych, y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi'r wlad iti; dos i fyny, a meddianna hi fel y dywedodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid, wrthyt. Paid ag ofni nac arswydo.” 22Ond fe ddaethoch chwi i gyd ataf a dweud, “Gad inni anfon dynion o'n blaen i chwilio'r wlad, a dod ag adroddiad inni am y ffordd yr awn i fyny iddi, a hefyd am y dinasoedd yr awn iddynt.” 23Yr oedd hyn yn dderbyniol yn fy ngolwg, a dewisais ddeuddeg o ddynion o'ch plith, un o bob llwyth. 24Fe aethant hwy a theithio i fyny i'r mynydd-dir, a mynd hyd at ddyffryn Escol, a'i chwilio. 25Casglasant beth o ffrwythau'r tir, a dod â hwy atom, ac adrodd mai gwlad dda oedd yr un yr oedd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoi inni.
26Ond nid oeddech chwi'n fodlon mynd i fyny, a gwrthryfelasoch yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw. 27Yr oeddech yn grwgnach yn eich pebyll, ac yn dweud, “Am fod yr ARGLWYDD yn ein casáu y daeth â ni allan o wlad yr Aifft a'n rhoi yn nwylo'r Amoriaid i'n difa. 28Sut yr awn ni i fyny yno? Y mae ein brodyr wedi ein digalonni trwy ddweud fod y bobl yn fwy ac yn dalach na ni, a bod y dinasoedd yn fawr gyda chaerau cyn uched â'r nefoedd, ac iddynt weld disgynyddion yr Anacim yno.” 29Yna dywedais wrthych, “Peidiwch ag arswydo nac ofni o'u hachos. 30Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaen, ac ef fydd yn ymladd trosoch, fel y gwnaeth yn eich gŵydd yn yr Aifft, 31a hefyd yn yr anialwch lle gwelsoch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich cario, fel y bydd dyn yn cario ei fab ei hun, bob cam o'r ffordd yr oeddech yn ei theithio nes dod i'r lle hwn.” 32Ond er hyn, nid oeddech chwi yn ymddiried yn yr ARGLWYDD eich Duw, 33a oedd yn mynd o'ch blaen ar y ffordd, mewn tân yn y nos i chwilio am le ichwi wersyllu, ac mewn cwmwl yn y dydd i ddangos ichwi'r ffordd i'w dilyn.
Cosbi Israel
Num. 14:20–45
34Pan glywodd yr ARGLWYDD eich geiriau, digiodd, a thyngodd: 35“Ni chaiff yr un o'r genhedlaeth ddrwg hon weld y wlad dda y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid. 36Caleb fab Jeffunne yn unig a gaiff ei gweld, ac iddo ef a'i ddisgynyddion y rhoddaf y wlad y troediodd ef arni, am iddo ef lwyr ddilyn yr ARGLWYDD.” 37O'ch achos chwi yr oedd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyf finnau hefyd, a dywedodd, “Ni chei dithau fynd yno, 38ond fe fydd Josua fab Nun, sydd yn dy wasanaeth, yn mynd yno; annog ef, oherwydd bydd ef yn ei rhoi yn feddiant i Israel. 39Ond bydd eich rhai bach, y dywedasoch y byddent yn ysbail, a'ch plant, nad ydynt heddiw yn gwybod na da na drwg, yn mynd i'r wlad; a rhoddaf hi iddynt hwy, a byddant yn ei meddiannu. 40Ond trowch chwi, a theithiwch i'r anialwch i gyfeiriad y Môr Coch.”
41Yna atebasoch fi a dweud, “Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD; fe awn i fyny ac ymladd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw.” Ac fe wisgodd pob un ohonoch ei arfau, gan gredu mai hawdd fyddai mynd i fyny i'r mynydd-dir. 42Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf am ddweud wrthych, “Peidiwch â mynd i fyny i ymladd, rhag ichwi gael eich gorchfygu gan eich gelynion, oherwydd ni fyddaf fi gyda chwi.” 43Er imi ddweud hyn wrthych, ni wrandawsoch ond gwrthryfela yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD, a beiddio mynd i fyny i'r mynydd-dir. 44A daeth yr Amoriaid, a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw, allan yn eich erbyn a'ch ymlid fel gwenyn, a'ch trechu yn Seir gerllaw Horma. 45Yna troesoch yn ôl ac wylo gerbron yr ARGLWYDD; ond ni wrandawodd yr ARGLWYDD arnoch, ac yr oedd yn glustfyddar i'ch cri. 46Yna bu i chwi aros yn Cades, lle y buoch am ddyddiau lawer.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 1: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004