Daeth Dareius fab Ahasferus o linach y Mediaid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid. Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, yr oeddwn i, Daniel, yn chwilio'r llyfrau ynglŷn â'r hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia'r proffwyd am nifer y blynyddoedd hyd derfyn dinistr Jerwsalem, sef deng mlynedd a thrigain. Yna trois at yr Arglwydd Dduw mewn gweddi daer ac ymbil, gydag ympryd a sachliain a lludw. Gweddïais ar yr ARGLWYDD fy Nuw a chyffesu a dweud, “O Arglwydd, y Duw mawr ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod ac sy'n ffyddlon i'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion, yr ydym wedi pechu a gwneud camwedd a drwg, ac wedi gwrthryfela ac anwybyddu d'orchmynion a'th ddeddfau. Ni wrandawsom ar dy weision y proffwydi, a fu'n llefaru yn dy enw wrth ein brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, ac wrth holl bobl y wlad. I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder; ond heddiw fel erioed, cywilydd sydd i ni, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem a holl Israel, yn agos ac ymhell, ym mhob gwlad lle'r alltudiwyd hwy am iddynt dy fradychu. O ARGLWYDD, cywilydd sydd i ni, i'n brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, am inni bechu yn dy erbyn. Ond y mae trugaredd a maddeuant gan yr Arglwydd ein Duw, er inni wrthryfela yn ei erbyn a gwrthod gwrando ar lais yr ARGLWYDD ein Duw i ddilyn ei gyfreithiau, a roddodd inni trwy ei weision y proffwydi. Y mae holl Israel wedi torri dy gyfraith a gwrthod gwrando ar dy lais; ac am inni bechu yn ei erbyn tywalltwyd arnom y felltith a'r llw sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gwas Duw. Cyflawnodd yr hyn a ddywedodd amdanom ni ac am ein barnwyr trwy ddwyn dinistr mawr arnom, oherwydd ni ddigwyddodd yn unman ddim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem. Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di. Cadwodd yr ARGLWYDD olwg ar y dinistr hwn nes dod ag ef arnom, am fod yr ARGLWYDD ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a ninnau heb wrando ar ei lais.
“Ac yn awr, O Arglwydd ein Duw, sydd wedi achub dy bobl o wlad yr Aifft â llaw gref a gwneud enw i ti dy hun hyd heddiw, yr ydym ni wedi pechu a gwneud drygioni. O Arglwydd, yn unol â'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas. Ac yn awr, ein Duw, gwrando ar weddi ac ymbil dy was, ac er dy fwyn dy hun pâr i'th wyneb ddisgleirio ar dy gysegr anghyfannedd. Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di. Gwrando, O Arglwydd! Trugarha, O Arglwydd! Gwrando, O Arglwydd, a gweithreda! Er dy fwyn dy hun, fy Nuw, paid ag oedi, oherwydd dy enw di sydd ar dy ddinas ac ar dy bobl.”
A thra oeddwn yn llefaru ac yn gweddïo, yn cyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn ymbil o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw, ehedodd y gŵr Gabriel, a welais eisoes yn y weledigaeth, a chyffyrddodd â mi ar adeg yr offrwm hwyrol. Esboniodd i mi a dweud, “Daniel, rwyf wedi dod yn awr i'th hyfforddi. Pan ddechreuaist ymbil, cyhoeddwyd gair, a deuthum innau i'w fynegi, oherwydd cefaist ffafr. Ystyria'r gair a deall y weledigaeth.
“Nodwyd deg wythnos a thrigain i'th bobl ac i'th ddinas sanctaidd, i roi diwedd ar wrthryfel a therfyn ar bechodau, i wneud iawn am ddrygioni ac i adfer cyfiawnder tragwyddol; i roi sêl ar weledigaeth a phroffwydoliaeth, ac i eneinio'r lle sancteiddiolaf. Deall hyn ac ystyria: bydd saith wythnos o'r amser y daeth gorchymyn i ailadeiladu Jerwsalem hyd ddyfodiad tywysog eneiniog; yna am ddwy wythnos a thrigain adnewyddir heol a ffos, ond bydd yn amser adfyd. Ac ar ôl y ddwy wythnos a thrigain fe leddir yr un eneiniog heb neb o'i du, a difethir y ddinas a'r cysegr gan filwyr tywysog sydd i ddod. Bydd yn gorffen mewn llifeiriant, gyda rhyfel yn peri anghyfanedd-dra hyd y diwedd. Fe wna gyfamod cadarn â llawer am un wythnos, ac am hanner yr wythnos rhydd derfyn ar aberth ac offrwm. Ac yn sgîl y ffieiddbeth daw anrheithiwr, a erys hyd y diwedd, pan dywelltir ar yr anrheithiwr yr hyn a ddywedwyd.”