Yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad, breuddwydiodd Nebuchadnesar; yr oedd ei feddwl yn gynhyrfus ac ni allai gysgu, a pharodd y brenin iddynt alw'r dewiniaid a'r swynwyr a'r hudolwyr a'r Caldeaid i esbonio'r hyn yr oedd wedi ei freuddwydio. Pan ddaethant o flaen y brenin, dywedodd wrthynt, “Cefais freuddwyd, ac yr wyf yn poeni ynghylch ei hystyr.” Atebodd y Caldeaid mewn Aramaeg, “O frenin, bydd fyw byth! Adrodd dy freuddwyd wrth dy weision, a rhown iti'r dehongliad.” Atebodd y brenin, “Dyma fy mhenderfyniad: os na fynegwch i mi'r freuddwyd a'i dehongliad, cewch eich rhwygo'n ddarnau, a chwelir eich tai. Ond os mynegwch y freuddwyd a'i dehongliad, cewch anrhegion a chyfoeth ac anrhydedd mawr gennyf fi. Felly mynegwch imi'r freuddwyd a'i dehongliad.” Dywedasant yr ail waith, “Adrodded y brenin y freuddwyd wrth ei weision; yna rhoddwn ninnau ei dehongliad.” Atebodd y brenin, “Y mae'n amlwg eich bod yn oedi'n fwriadol, am ichwi sylweddoli fy mhenderfyniad; un ddedfryd yn unig sy'n eich aros os na fynegwch y freuddwyd imi. Yr ydych wedi cytuno â'ch gilydd i ddweud celwydd i'm camarwain hyd nes y daw tro ar fyd. Dywedwch wrthyf beth oedd y freuddwyd, a chaf wybod y medrwch ei dehongli.” Atebodd y Caldeaid, “Nid oes neb ar wyneb daear a all fynegi'r hyn y mae'r brenin yn ei ofyn, oherwydd nid yw'r un brenin o fri ac awdurdod wedi gofyn cwestiwn fel hwn i ddewin na swynwr na Chaldead. Y mae'r brenin wedi gofyn cwestiwn dyrys na all neb ei ateb ond y duwiau, nad ydynt yn byw ym myd y cnawd.” Yna llidiodd y brenin a chynddeiriogi, a gorchymyn difa holl ddoethion Babilon. Cyhoeddwyd dedfryd fod y doethion i'w lladd; a chwiliwyd am Daniel a'i gyfeillion, i'w lladd hwythau.
Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion. Dywedodd wrtho, “Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?” Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo. Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia, a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon. Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau:
“Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd;
eiddo ef yw doethineb a nerth.
Ef sy'n newid amserau a thymhorau,
yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer,
yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus.
Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig,
yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll;
gydag ef y trig goleuni.
Diolchaf a rhof fawl i ti, O Dduw fy hynafiaid,
am i ti roi doethineb a nerth i mi.
Dangosaist i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym,
a rhoi gwybod inni beth sy'n poeni'r brenin.”