Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 11:1-45

Daniel 11:1-45 BCND

Ac ym mlwyddyn gyntaf Dareius y Mediad, sefais innau i'w gryfhau a'i nerthu. “Yn awr dywedaf y gwir wrthyt: cyfyd tri brenin arall yn Persia, ac yna pedwerydd, a fydd yn gyfoethocach o lawer na hwy i gyd, ac fel yr ymgryfha trwy ei gyfoeth bydd yn cyffroi pawb yn erbyn brenhiniaeth Groeg. Yna fe gyfyd brenin cryf a llywodraethu dros ymerodraeth fawr a gwneud fel y myn. Ond, cyn gynted ag y bydd mewn awdurdod, rhwygir ei deyrnas a'i rhannu i bedwar gwynt y nefoedd, ac nid i'w ddisgynyddion; ni fydd yn ymerodraeth fel ei eiddo ef, oherwydd diwreiddir ei frenhiniaeth a'i rhoi i eraill ar wahân i'r rhain. Bydd brenin y de yn gryf, ond bydd un o'i dywysogion yn gryfach nag ef ac yn llywodraethu ar ymerodraeth fwy na'r eiddo ef. Ymhen rhai blynyddoedd gwnânt gytundeb â'i gilydd, a daw merch brenin y de yn wraig i frenin y gogledd, i selio'r cytundeb; ond ni fydd ei dylanwad yn aros na'i hil yn para. Fe'i bradychir hi a'i gosgordd, a hefyd ei phlentyn a'r un a'i cynhaliodd. Yna fe dyf blaguryn o'i gwraidd, a sefyll yn ei lle, a dod yn erbyn y fyddin i gaer brenin y gogledd, a llwyddo i'w threchu. Bydd yn cludo ymaith i'r Aifft eu duwiau a'u heilunod a'u celfi gwerthfawr o arian ac aur. Ni fydd ymosod ar frenin y gogledd am rai blynyddoedd, ond fe ddaw hwnnw yn erbyn teyrnas brenin y de, a dychwelyd i'w wlad ei hun. “Bydd ei feibion yn ymbaratoi i ryfel ac yn casglu mintai gref o filwyr; ac fe ddaw un ohonynt a rhuthro ymlaen fel llif a rhyfela hyd at y gaer. Yna bydd brenin y de yn ffyrnigo ac yn ymladd yn erbyn brenin y gogledd; bydd hwnnw'n arwain llu mawr, ond rhoddir y llu yn llaw ei elyn. Pan orchfygir y llu, bydd yn ymfalchïo ac yn lladd myrddiynau, ond heb ennill buddugoliaeth. Yna bydd brenin y gogledd yn codi llu arall, mwy na'r cyntaf, ac ymhen amser fe ddaw â byddin fawr ac adnoddau lawer. Y pryd hwnnw bydd llawer yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de, a therfysgwyr o blith dy bobl di yn codi, ac felly'n cyflawni'r weledigaeth, ond methu a wnânt. Yna daw brenin y gogledd a gwarchae ar ddinas gaerog a'i hennill. Ni fydd byddinoedd y de, na'r milwyr dewisol, yn medru ei wrthsefyll, am eu bod heb nerth. Bydd ei wrthwynebydd yn gwneud fel y myn, ac ni saif neb o'i flaen; bydd yn ymsefydlu yn y wlad hyfryd, a fydd yn llwyr dan ei awdurdod. Ei fwriad fydd dod â holl rym ei deyrnas, ac yna fe wna gytundeb ag ef a rhoi iddo ferch yn briod er mwyn distrywio'r deyrnas; ond ni fydd hynny'n tycio nac yn troi'n fantais iddo. Yna fe dry at yr ynysoedd, ac ennill llawer ohonynt, ond fe rydd pennaeth estron derfyn ar ei ryfyg, a throi ei ryfyg yn ôl arno ef ei hun. Yna fe gilia'n ôl at amddiffynfeydd ei wlad; ond methu a wna, a syrthio a diflannu o'r golwg. Yn ei le daw un a fydd yn anfon allan swyddog i drethu golud y deyrnas; mewn ychydig ddyddiau fe'i torrir yntau i lawr, ond nid mewn cythrwfl nac mewn brwydr. “Yn ei le ef cyfyd un dirmygus, ond ni roddir iddo ogoniant brenhinol. Yn ddirybudd y daw, a chymryd y frenhiniaeth trwy weniaith. Ysgubir ymaith fyddinoedd nerthol o'i flaen, a'u dryllio hwy a thywysog y cyfamod hefyd. Er iddo wneud cytundeb, bydd yn twyllo, ac yn para i gryfhau, er lleied yw ei genedl. Heb rybudd meddianna rannau ffrwythlonaf y dalaith, a gwneud yr hyn na wnaeth yr un o'i hynafiaid, sef rhannu eu hysglyfaeth a'u hysbail a'u golud, a chynllwyn yn erbyn dinasoedd caerog, ond am gyfnod yn unig. “Mewn nerth a balchder fe ymesyd â byddin fawr ar frenin y de, a daw yntau i ryfel â byddin fawr a chref iawn; ond ni fedr barhau, am fod rhai yn cynllwyn yn ei erbyn. Y rhai sy'n bwyta wrth ei fwrdd a fydd yn ei ddifetha; ysgubir ymaith ei fyddin, a syrthia llawer yn gelain. Bwriad drwg fydd gan y ddau frenin yma, ac er eu bod wrth yr un bwrdd, byddant yn dweud celwydd wrth ei gilydd; ond ni lwyddant, oherwydd ar yr amser penodedig fe ddaw'r diwedd. Bydd brenin y gogledd yn dychwelyd i'w wlad ei hun a chanddo lawer o ysbail, ond â'i galon yn erbyn y cyfamod sanctaidd; ar ôl gweithredu, â'n ôl i'w wlad ei hun. “Ar amser penodedig fe ddaw'n ôl eilwaith i'r de, ond ni fydd y tro hwn fel y tro cyntaf. Daw llongau Chittim yn ei erbyn, a bydd yntau'n digalonni ac yn troi'n ôl; unwaith eto fe ddengys ei lid yn erbyn y cyfamod sanctaidd, a rhoi sylw i bawb sy'n ei dorri. Daw rhai o'i filwyr a halogi'r cysegr a'r amddiffynfa, a dileu'r offrwm beunyddiol a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol. Trwy ei weniaith fe ddena'r rhai sy'n torri'r cyfamod, ond bydd y bobl sy'n adnabod eu Duw yn gweithredu'n gadarn. Bydd y deallus ymysg y bobl yn dysgu'r lliaws, ond am ryw hyd byddant yn syrthio trwy gleddyf a thân, trwy gaethiwed ac anrhaith. Pan syrthiant, cânt rywfaint o gymorth, er y bydd llawer yn ymuno â hwy trwy weniaith. Bydd rhai o'r deallus yn syrthio er mwyn cael eu puro a'u glanhau a'u cannu ar gyfer amser y diwedd, oherwydd y mae'r amser penodedig yn dod. Bydd y brenin yn gwneud fel y myn, yn ymorchestu ac yn ymddyrchafu uwchlaw pob duw, ac yn cablu Duw y duwiau. Bydd yn llwyddo hyd ddiwedd y llid, oherwydd yr hyn a ordeiniwyd a fydd. Nid ystyria dduwiau ei hynafiaid na'r duw a hoffir gan wragedd; nid ystyria'r un duw, ond ei osod ei hun yn uwch na hwy i gyd. Yn eu lle fe anrhydedda dduw'r caerau; ag aur ac arian a meini gwerthfawr a phethau dymunol bydd yn anrhydeddu duw oedd yn ddieithr i'w hynafiaid. Bydd yn gorfodi pobl duw dieithr i amddiffyn ei gaerau, yn rhoi anrhydedd i'r rhai sy'n ei gydnabod, yn gwneud iddynt lywodraethu dros y lliaws, ac yn rhannu tir iddynt am bris. “Yn amser y diwedd daw brenin y de allan i ymladd, a daw brenin y gogledd fel corwynt yn ei erbyn â cherbydau a marchogion a llawer o longau; bydd hwnnw'n ymosod ar y gwledydd ac yn eu gorlifo. Daw i'r wlad hyfryd, a chaiff llawer eu difa; ond bydd rhai, fel Edom a Moab a gweddill Ammon, yn dianc o'i afael. Ymleda'i awdurdod dros y gwledydd, ac ni chaiff yr Aifft ei harbed. Daw trysorau aur ac arian a holl bethau dymunol yr Aifft i'w feddiant, a bydd y Libyaid a'r Ethiopiaid yn ei ddilyn. Ond daw newyddion o'r dwyrain a'r gogledd a'i gynhyrfu, ac fe â allan mewn cynddaredd i ladd a dinistrio llawer. Gesyd bebyll ei bencadlys rhwng y môr a'r mynydd sanctaidd godidog; ond daw ei yrfa i ben heb neb yn ei helpu.