Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel, ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, “Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd.” Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia, “Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a dŵr i'w yfed, ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna â'th weision fel y gweli'n dda.” Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod. Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin. Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt. Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd.
Darllen Daniel 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Daniel 1:9-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos