Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD! Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi? Tywyllwch fydd, nid goleuni; fel pe bai dyn yn dianc rhag llew, ac arth yn ei gyfarfod; neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared, a neidr yn ei frathu. Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni; caddug, heb lygedyn golau ynddo? “Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau; nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd. Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau, ni allaf eu derbyn; ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion. Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf; ni wrandawaf ar gainc eich telynau. Ond llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref.
Darllen Amos 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Amos 5:18-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos