Amos 5
5
Galarnad am Israel
1Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, dŷ Israel:
2“Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio,
ac ni chyfyd eto;
gadawyd hi ar lawr,
heb neb i'w chodi.”
3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth dŷ Israel:
“Y ddinas a anfonodd fil
a gaiff gant yn ôl;
a'r un a anfonodd gant
a gaiff ddeg yn ôl.”
4Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel:
“Ceisiwch fi, a byddwch fyw;
5peidiwch â cheisio Bethel,
nac ymweld â Gilgal,
na theithio i Beerseba;
oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal,
ac ni bydd Bethel yn ddim.”
6Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw—
rhag iddo ruthro fel tân drwy dŷ Joseff
a'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel—
7chwi sy'n troi barn yn wermod,
ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.
8Ef a wnaeth Pleiades ac Orion;
ef sy'n troi tywyllwch yn fore,
ac yn tywyllu'r dydd yn nos.
Ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr,
ac yn eu tywallt ar wyneb y tir;
yr ARGLWYDD yw ei enw.
9Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf,
a daw distryw ar y gaer.
10Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth,
ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.
11Felly, am ichwi sathru'r tlawd,
a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith—
er ichwi godi tai o gerrig nadd,
ni chewch fyw ynddynt;
er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd,
ni chewch yfed eu gwin.
12Canys gwn mor niferus yw'ch troseddau
ac mor fawr yw'ch pechodau—
chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr,
ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.
13Felly tawed y doeth ar y fath amser,
canys amser drwg ydyw.
14Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni,
fel y byddwch fyw
ac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi,
fel yr ydych yn honni ei fod.
15Casewch ddrygioni, carwch ddaioni,
gofalwch am farn yn y porth;
efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,
wrth weddill Joseff.
16Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd:
“Ym mhob sgwâr fe fydd wylo,
ym mhob stryd fe ddywedant, ‘Och! Och!’
Galwant ar y llafurwr i alaru
ac ar y galarwyr i gwynfan.
17Bydd wylofain ym mhob gwinllan,
oherwydd mi af trwy dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.
Dydd yr ARGLWYDD
18Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD!
Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi?
Tywyllwch fydd, nid goleuni;
19fel pe bai dyn yn dianc rhag llew,
ac arth yn ei gyfarfod;
neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared,
a neidr yn ei frathu.
20Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni;
caddug, heb lygedyn golau ynddo?
21“Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau;
nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.
22Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau,
ni allaf eu derbyn;
ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.
23Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf;
ni wrandawaf ar gainc eich telynau.
24Ond llifed barn fel dyfroedd
a chyfiawnder fel afon gref.
25“A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, dŷ Israel? 26Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi—eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw— 27oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus,” medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.
Dewis Presennol:
Amos 5: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004