Yr oedd yn Jopa ryw ddisgybl o'r enw Tabitha; ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Dorcas. Yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o elusennau. Yr adeg honno fe glafychodd, a bu farw. Golchasant ei chorff a'i roi i orwedd mewn ystafell ar y llofft. A chan fod Lyda yn agos i Jopa, pan glywodd y disgyblion fod Pedr yno, anfonasant ddau ddyn ato i ddeisyf arno, “Tyrd drosodd atom heb oedi.” Cododd Pedr ac aeth gyda hwy. Wedi iddo gyrraedd, aethant ag ef i fyny i'r ystafell, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos y crysau a'r holl ddillad yr oedd Dorcas wedi eu gwneud pan oedd gyda hwy. Ond trodd Pedr bawb allan, a phenliniodd a gweddïo, a chan droi at y corff meddai, “Tabitha, cod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Pedr, cododd ar ei heistedd. Rhoddodd yntau ei law iddi a'i chodi, a galwodd y saint a'r gwragedd gweddwon, a'i chyflwyno iddynt yn fyw. Aeth y peth yn hysbys drwy Jopa i gyd, a daeth llawer i gredu yn yr Arglwydd.
Darllen Actau 9
Gwranda ar Actau 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 9:36-42
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos