Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” Ac meddai'r Arglwydd wrtho, “Cod, a dos i'r stryd a elwir y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo; ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn ôl iddo.” Atebodd Ananias, “Arglwydd, yr wyf wedi clywed gan lawer am y dyn hwn, faint o ddrwg y mae wedi ei wneud i'th saint di yn Jerwsalem. Yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddi wrth y prif offeiriaid i ddal pawb sy'n galw ar dy enw di.” Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di; llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel. Dangosaf fi iddo faint sy raid iddo'i ddioddef dros fy enw i.” Aeth Ananias ymaith ac i mewn i'r tŷ, a rhoddodd ei ddwylo arno a dweud, “Y brawd Saul, yr Arglwydd sydd wedi fy anfon—sef Iesu, yr un a ymddangosodd iti ar dy ffordd yma—er mwyn iti gael dy olwg yn ôl, a'th lenwi â'r Ysbryd Glân.” Ar unwaith syrthiodd rhywbeth fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl. Cododd, ac fe'i bedyddiwyd
Darllen Actau 9
Gwranda ar Actau 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 9:10-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos