Yr oedd Saul yn dal i chwythu bygythion angheuol yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, ac fe aeth at yr archoffeiriad a gofyn iddo am lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os byddai'n cael hyd i rywrai o bobl y Ffordd, yn wŷr neu'n wragedd, y gallai eu dal a dod â hwy i Jerwsalem. Pan oedd ar ei daith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd o'i amgylch oleuni o'r nef. Syrthiodd ar lawr, a chlywodd lais yn dweud wrtho, “Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?” Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ac ebe'r llais, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud.” Yr oedd y dynion oedd yn cyd-deithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb. Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.
Darllen Actau 9
Gwranda ar Actau 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 9:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos