Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 9:1-30

Actau 9:1-30 BCND

Yr oedd Saul yn dal i chwythu bygythion angheuol yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, ac fe aeth at yr archoffeiriad a gofyn iddo am lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os byddai'n cael hyd i rywrai o bobl y Ffordd, yn wŷr neu'n wragedd, y gallai eu dal a dod â hwy i Jerwsalem. Pan oedd ar ei daith ac yn agosáu at Ddamascus, yn sydyn fflachiodd o'i amgylch oleuni o'r nef. Syrthiodd ar lawr, a chlywodd lais yn dweud wrtho, “Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?” Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ac ebe'r llais, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod, a dos i mewn i'r ddinas, ac fe ddywedir wrthyt beth sy raid iti ei wneud.” Yr oedd y dynion oedd yn cyd-deithio ag ef yn sefyll yn fud, yn clywed y llais ond heb weld neb. Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus. Bu am dridiau heb weld, ac ni chymerodd na bwyd na diod. Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” Ac meddai'r Arglwydd wrtho, “Cod, a dos i'r stryd a elwir y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo; ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn ôl iddo.” Atebodd Ananias, “Arglwydd, yr wyf wedi clywed gan lawer am y dyn hwn, faint o ddrwg y mae wedi ei wneud i'th saint di yn Jerwsalem. Yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddi wrth y prif offeiriaid i ddal pawb sy'n galw ar dy enw di.” Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di; llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel. Dangosaf fi iddo faint sy raid iddo'i ddioddef dros fy enw i.” Aeth Ananias ymaith ac i mewn i'r tŷ, a rhoddodd ei ddwylo arno a dweud, “Y brawd Saul, yr Arglwydd sydd wedi fy anfon—sef Iesu, yr un a ymddangosodd iti ar dy ffordd yma—er mwyn iti gael dy olwg yn ôl, a'th lenwi â'r Ysbryd Glân.” Ar unwaith syrthiodd rhywbeth fel cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl. Cododd, ac fe'i bedyddiwyd, a chymerodd luniaeth ac ymgryfhaodd. Bu gyda'r disgyblion oedd yn Namascus am rai dyddiau, ac ar unwaith dechreuodd bregethu Iesu yn y synagogau, a chyhoeddi mai Mab Duw oedd ef. Yr oedd pawb oedd yn ei glywed yn rhyfeddu. “Onid dyma'r dyn,” meddent, “a wnaeth ddifrod yn Jerwsalem ar y rhai sy'n galw ar yr enw hwn? Ac onid i hyn yr oedd wedi dod yma, sef i fynd â hwy yn rhwym at y prif offeiriaid?” Ond yr oedd Saul yn ymrymuso fwyfwy, ac yn drysu'r Iddewon oedd yn byw yn Namascus wrth brofi mai Iesu oedd y Meseia. Fel yr oedd dyddiau lawer yn mynd heibio, cynllwyniodd yr Iddewon i'w ladd. Ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Yr oeddent hefyd yn gwylio'r pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef. Ond cymerodd ei ddisgyblion ef yn y nos a'i ollwng i lawr y mur, gan ei ostwng mewn basged. Wedi iddo gyrraedd Jerwsalem ceisiodd ymuno â'r disgyblion; ond yr oedd ar bawb ei ofn, gan nad oeddent yn credu ei fod yn ddisgybl. Ond cymerodd Barnabas ef a mynd ag ef at yr apostolion, ac adroddodd wrthynt fel yr oedd wedi gweld yr Arglwydd ar y ffordd, ac iddo siarad ag ef, ac fel yr oedd wedi llefaru yn hy yn Namascus yn enw Iesu. Bu gyda hwy, yn mynd i mewn ac allan yn Jerwsalem, gan lefaru'n hy yn enw yr Arglwydd; byddai'n siarad ac yn dadlau â'r Iddewon Groeg eu hiaith, ond yr oeddent hwy'n ceisio'i ladd ef. Pan ddaeth y credinwyr i wybod, aethant ag ef i lawr i Gesarea, a'i anfon ymaith i Darsus.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Actau 9:1-30