Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 5:17-33

Actau 5:17-33 BCND

Ond llanwyd yr archoffeiriad ag eiddigedd, a'r holl rai hynny oedd gydag ef, sef plaid y Sadwceaid. Cymerasant afael yn yr apostolion, a'u rhoi mewn dalfa gyhoeddus. Ond yn ystod y nos agorodd angel yr Arglwydd ddrysau'r carchar a dod â hwy allan; a dywedodd, “Ewch, safwch yn y deml a llefarwch wrth y bobl bob peth ynglŷn â'r Bywyd hwn.” Wedi iddynt glywed hyn, aethant ar doriad dydd i mewn i'r deml, a dechreusant ddysgu. Wedi i'r archoffeiriad a'r rhai oedd gydag ef gyrraedd, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef senedd gyflawn cenedl Israel, ac anfonasant i'r carchar i gyrchu'r apostolion. Ond ni chafodd y swyddogion a ddaeth yno hyd iddynt yn y carchar. Daethant yn eu holau, ac adrodd, “Cawsom y carchar wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a'r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb oddi mewn.” A phan glywodd prif swyddog gwarchodlu'r deml, a'r prif offeiriaid, y geiriau hyn, yr oeddent mewn penbleth yn eu cylch, beth a allai hyn ei olygu. Ond daeth rhywun a dweud wrthynt, “Y mae'r dynion a roesoch yn y carchar yn sefyll yn y deml ac yn dysgu'r bobl.” Yna aeth y swyddog gyda'i filwyr i'w nôl, ond heb drais, am eu bod yn ofni cael eu llabyddio gan y bobl. Wedi dod â hwy yno, gwnaethant iddynt sefyll gerbron y Sanhedrin. Holodd yr archoffeiriad hwy, a dweud, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi beidio â dysgu yn yr enw hwn, a dyma chwi wedi llenwi Jerwsalem â'ch dysgeidiaeth, a'ch bwriad yw rhoi'r bai arnom ni am dywallt gwaed y dyn hwn.” Atebodd Pedr a'r apostolion, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Y mae Duw ein hynafiaid ni wedi cyfodi Iesu, yr hwn yr oeddech chwi wedi ei lofruddio trwy ei grogi ar bren. Hwn a ddyrchafodd Duw at ei law dde yn Bentywysog a Gwaredwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. Ac yr ydym ni'n dystion o'r pethau hyn, ni a'r Ysbryd Glân a roddodd Duw i'r rhai sy'n ufuddhau iddo.” Pan glywsant hwy hyn, aethant yn ffyrnig ac ewyllysio eu lladd.