Wedi inni ddod i ddiogelwch, cawsom wybod mai Melita y gelwid yr ynys. Dangosodd y brodorion garedigrwydd anghyffredin tuag atom. Cyneuasant goelcerth, a'n croesawu ni bawb at y tân, oherwydd yr oedd yn dechrau glawio, ac yn oer. Casglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo'u rhoi ar y tân, daeth gwiber allan o'r gwres, a glynu wrth ei law. Pan welodd y brodorion y neidr ynghrog wrth ei law, meddent wrth ei gilydd, “Llofrudd, yn sicr, yw'r dyn yma, ac er ei fod wedi dianc yn ddiogel o'r môr, nid yw'r dduwies Cyfiawnder wedi gadael iddo fyw.” Yna, ysgydwodd ef y neidr ymaith i'r tân, heb gael dim niwed; yr oeddent hwy'n disgwyl iddo ddechrau chwyddo, neu syrthio'n farw yn sydyn. Ar ôl iddynt ddisgwyl yn hir, a gweld nad oedd dim anghyffredin yn digwydd iddo, newidiasant eu meddwl a dechrau dweud mai duw ydoedd. Yng nghyffiniau'r lle hwnnw, yr oedd tiroedd gan ŵr blaenaf yr ynys, un o'r enw Poplius. Derbyniodd hwn ni, a'n lletya yn gyfeillgar am dridiau. Yr oedd tad Poplius yn digwydd bod yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o dwymyn a chan ddisentri. Aeth Paul i mewn ato, a chan weddïo a rhoi ei ddwylo arno, fe'i hiachaodd. Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiacháu. Rhoddodd y bobl hyn anrhydeddau lawer inni, ac wrth inni gychwyn ymaith, ein llwytho â phopeth y byddai arnom ei angen.
Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni. Wedi cyrraedd Syracwsai, ac aros yno dridiau, hwyliasom oddi yno a dod i Rhegium. Ar ôl diwrnod cododd gwynt o'r de, a'r ail ddydd daethom i Puteoli. Yno cawsom hyd i gydgredinwyr, a gwahoddwyd ni i aros gyda hwy am saith diwrnod. A dyna sut y daethom i Rufain. Pan glywodd y credinwyr yno amdanom, daethant allan cyn belled â Marchnad Apius a'r Tair Tafarn i'n cyfarfod. Pan welodd Paul hwy, fe ddiolchodd i Dduw, ac ymwrolodd.