Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 27:27-44

Actau 27:27-44 BCND

Daeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ninnau'n dal i fynd gyda'r lli ar draws Môr Adria. Tua chanol nos, dechreuodd y morwyr dybio fod tir yn agosáu. Wedi plymio, cawsant ddyfnder o ugain gwryd, ac ymhen ychydig, plymio eilwaith a chael pymtheg gwryd. Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio. Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r dŵr, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen. Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, “Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub.” Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith. Pan oedd hi ar ddyddio, dechreuodd Paul annog pawb i gymryd bwyd, gan ddweud, “Heddiw yw'r pedwerydd dydd ar ddeg i chwi fod yn disgwyl yn bryderus, a heb gymryd tamaid o ddim i'w fwyta. Felly yr wyf yn eich annog i gymryd bwyd, oherwydd y mae eich gwaredigaeth yn dibynnu ar hynny; ni chollir blewyn oddi ar ben yr un ohonoch.” Wedi iddo ddweud hyn, cymerodd fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, a'i dorri a dechrau bwyta. Cododd pawb eu calon, a hwythau hefyd yn cymryd bwyd. Rhwng pawb yr oedd dau gant saith deg a chwech ohonom yn y llong. Wedi iddynt gael digon o fwyd, dechreusant ysgafnhau'r llong trwy daflu'r ŷd allan i'r môr. Pan ddaeth hi'n ddydd, nid oeddent yn adnabod y tir, ond gwelsant gilfach ac iddi draeth, a phenderfynwyd gyrru'r llong i'r lan yno, os oedd modd. Torasant yr angorion i ffwrdd, a'u gadael yn y môr. Yr un pryd, datodwyd cyplau'r llywiau, a chodi'r hwyl flaen i'r awel, a chyfeirio tua'r traeth. Ond daliwyd hwy gan ddeufor-gyfarfod, a gyrasant y llong i dir. Glynodd y pen blaen, a sefyll yn ddiysgog, ond dechreuodd y starn ymddatod dan rym y tonnau. Penderfynodd y milwyr ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio i ffwrdd a dianc. Ond gan fod y canwriad yn awyddus i achub Paul, rhwystrodd hwy rhag cyflawni eu bwriad, a gorchmynnodd i'r rhai a fedrai nofio neidio yn gyntaf oddi ar y llong, a chyrraedd y tir, ac yna'r lleill, rhai ar ystyllod ac eraill ar ddarnau o'r llong. Ac felly y bu i bawb ddod yn ddiogel i dir.