Meddai Agripa wrth Paul, “Y mae caniatâd iti siarad drosot dy hun.” Yna fe estynnodd Paul ei law, a dechrau ei amddiffyniad: “Yr wyf yn f'ystyried fy hun yn ffodus, y Brenin Agripa, mai ger dy fron di yr wyf i'm hamddiffyn fy hun heddiw ynglŷn â'r holl gyhuddiadau y mae'r Iddewon yn eu dwyn yn fy erbyn, yn enwedig gan dy fod yn hyddysg yn yr holl arferion a dadleuon a geir ymhlith yr Iddewon. Gan hynny, rwy'n erfyn arnat i wrando arnaf yn amyneddgar. Y mae fy muchedd i o'm mebyd, y modd y bûm yn byw o'r dechrau ymhlith fy nghenedl, a hefyd yn Jerwsalem, yn hysbys i bob Iddew. Y maent yn gwybod ers amser maith, os dymunant dystiolaethu, mai yn ôl sect fwyaf caeth ein crefydd y bûm i'n byw, yn Pharisead. Yn awr yr wyf yn sefyll fy mhrawf ar gyfrif gobaith sydd wedi ei seilio ar yr addewid a wnaed gan Dduw i'n hynafiaid ni, addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, trwy addoli'n selog nos a dydd, yn gobeithio ei sylweddoli; ac am y gobaith hwn yr wyf yn cael fy nghyhuddo, O frenin, gan Iddewon! Pam y bernir yn anghredadwy gennych chwi fod Duw yn codi'r meirw? Eto, yr oeddwn i fy hun yn tybio unwaith y dylwn weithio'n ddygn yn erbyn enw Iesu o Nasareth; a gwneuthum hynny yn Jerwsalem. Ar awdurdod y prif offeiriaid, caeais lawer o'r saint mewn carcharau, a phan fyddent yn cael eu lladd, rhoddais fy mhleidlais yn eu herbyn; a thrwy'r holl synagogau mi geisiais lawer gwaith, trwy gosb, eu gorfodi i gablu. Yr oeddwn yn enbyd o ffyrnig yn eu herbyn, ac yn eu herlid hyd ddinasoedd estron hyd yn oed.
“Pan oeddwn yn teithio i Ddamascus ar y perwyl hwn gydag awdurdod a chennad y prif offeiriaid, gwelais ar y ffordd ganol dydd, O frenin, oleuni mwy llachar na'r haul yn llewyrchu o'r nef o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn teithio gyda mi. Syrthiodd pob un ohonom ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf yn iaith yr Iddewon, ‘Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i? Y mae'n galed iti wingo yn erbyn y symbylau.’ Dywedais innau, ‘Pwy wyt ti, Arglwydd?’ A dywedodd yr Arglwydd, ‘Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Ond cod a saf ar dy draed; oherwydd i hyn yr wyf wedi ymddangos i ti, sef i'th benodi di yn was imi, ac yn dyst o'r hyn yr wyt wedi ei weld, ac a weli eto, ohonof fi. Gwaredaf di oddi wrth y bobl hyn ac oddi wrth y Cenhedloedd yr wyf yn dy anfon atynt, i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.’
“O achos hyn, y Brenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol, ond bûm yn cyhoeddi i drigolion Damascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd, eu bod i edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o'u hedifeirwch. Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y deml, a cheisio fy llofruddio. Ond mi gefais gymorth gan Dduw hyd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddweud dim ond y pethau y dywedodd y proffwydi, a Moses hefyd, eu bod i ddigwydd, sef bod yn rhaid i'r Meseia ddioddef, a'i fod ef, y cyntaf i atgyfodi oddi wrth y meirw, i gyhoeddi goleuni i bobl Israel ac i'r Cenhedloedd.”
Ar ganol yr amddiffyniad hwn, dyma Ffestus yn gweiddi, “Yr wyt yn wallgof, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy yrru di'n wallgof.” Meddai Paul, “Na, nid wyf yn wallgof, ardderchocaf Ffestus; yn hytrach, geiriau gwirionedd a synnwyr yr wyf yn eu llefaru. Oherwydd fe ŵyr y brenin am y pethau hyn, ac yr wyf yn llefaru yn hy wrtho. Ni allaf gredu fod dim un o'r pethau hyn yn anhysbys iddo, oherwydd nid mewn rhyw gongl y gwnaed hyn. A wyt ti, y Brenin Agripa, yn credu'r proffwydi? Mi wn i dy fod yn credu.” Ac meddai Agripa wrth Paul, “Mewn byr amser yr wyt am fy mherswadio i fod yn Gristion!” Atebodd Paul, “Byr neu beidio, mi weddïwn i ar Dduw, nid am i ti yn unig, ond am i bawb sy'n fy ngwrando heddiw fod yr un fath ag yr wyf fi, ar wahân i'r rhwymau yma.”
Yna cododd y brenin a'r rhaglaw, a Bernice a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwy, ac wedi iddynt ymneilltuo, buont yn ymddiddan â'i gilydd gan ddweud, “Nid yw'r dyn yma yn gwneud dim oll sy'n haeddu marwolaeth na charchar.” Ac meddai Agripa wrth Ffestus, “Gallasai'r dyn yma fod wedi cael ei ollwng yn rhydd, oni bai ei fod wedi apelio at Gesar.”