Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 25:1-12

Actau 25:1-12 BCND

Felly, dridiau wedi i Ffestus gyrraedd ei dalaith, aeth i fyny i Jerwsalem o Gesarea, a gosododd y prif offeiriaid ac arweinwyr yr Iddewon eu hachos yn erbyn Paul ger ei fron. Yr oeddent yn ceisio gan Ffestus eu ffafrio hwy yn ei erbyn ef, yn deisyf arno i anfon amdano i Jerwsalem, ac ar yr un pryd yn gwneud cynllwyn i'w ladd ar y ffordd. Atebodd Ffestus, fodd bynnag, fod Paul dan warchodaeth yng Nghesarea, a'i fod ef ei hun yn bwriadu cychwyn i ffwrdd yn fuan. “Felly,” meddai, “gadewch i'r gwŷr sydd ag awdurdod yn eich plith ddod i lawr gyda mi a'i gyhuddo ef, os yw'r dyn wedi gwneud rhywbeth o'i le.” Arhosodd Ffestus gyda hwy am wyth neu ddeg diwrnod ar y mwyaf. Yna aeth i lawr i Gesarea, a thrannoeth cymerodd ei le yn y llys a gorchymyn dod â Paul gerbron. Pan ymddangosodd Paul, safodd yr Iddewon oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem o'i amgylch, gan ddwyn llawer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn. Ond ni allent eu profi yn wyneb yr hyn a ddywedodd Paul yn ei amddiffyniad: “Nid wyf fi wedi troseddu o gwbl, nac yn erbyn Cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cesar.” Ond gan fod Ffestus yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gofynnodd i Paul, “A wyt ti'n fodlon mynd i fyny i Jerwsalem a chael dy farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?” Dywedodd Paul, “Yr wyf fi'n sefyll gerbron llys Cesar, lle y dylid fy marnu. Ni throseddais o gwbl yn erbyn yr Iddewon, fel y gwyddost ti yn eithaf da. Fodd bynnag, os wyf yn droseddwr, ac os wyf wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu marwolaeth, nid wyf yn ceisio osgoi dedfryd marwolaeth. Ond os yw cyhuddiadau'r bobl hyn yn fy erbyn yn ddisail, ni all neb fy nhrosglwyddo iddynt fel ffafr. Yr wyf yn apelio at Gesar.” Yna, wedi iddo drafod y mater â'i gynghorwyr, atebodd Ffestus: “At Gesar yr wyt wedi apelio; at Gesar y cei fynd.”