Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 23:1-35

Actau 23:1-35 BCND

Syllodd Paul ar y Sanhedrin, ac meddai, “Frodyr, yr wyf fi wedi byw â chydwybod lân gerbron Duw hyd y dydd hwn.” Ond gorchmynnodd Ananias yr archoffeiriad i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei geg. Yna dywedodd Paul wrtho, “Y mae Duw yn mynd i'th daro di, tydi bared gwyngalchog. A wyt ti'n eistedd i'm barnu i yn ôl y Gyfraith, ac yna'n torri'r Gyfraith trwy orchymyn fy nharo?” Ond dywedodd y rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, “A wyt ti'n beiddio sarhau archoffeiriad Duw?” Ac meddai Paul, “Ni wyddwn, frodyr, mai'r archoffeiriad ydoedd; oherwydd y mae'n ysgrifenedig, ‘Paid â dweud yn ddrwg am bennaeth dy bobl.’ ” Sylweddolodd Paul fod y naill ran yn Sadwceaid, a'r llall yn Phariseaid, a dechreuodd lefaru'n uchel yn y Sanhedrin: “Frodyr, Pharisead wyf fi, a mab i Pharisead. Ynghylch gobaith am atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf.” Wedi iddo ddweud hyn, aeth yn ddadl rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid, a rhannwyd y cynulliad. Oherwydd y mae'r Sadwceaid yn dweud nad oes nac atgyfodiad nac angel nac ysbryd, ond y mae'r Phariseaid yn eu cydnabod i gyd. Bu gweiddi mawr, a chododd rhai o'r ysgrifenyddion oedd yn perthyn i blaid y Phariseaid, a dadlau'n daer, gan ddweud, “Nid ydym yn cael dim drwg yn y dyn hwn; a beth os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel?” Ac wrth i'r ddadl boethi, daeth ofn ar y capten rhag i Paul gael ei dynnu'n ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i'r milwyr ddod i lawr i'w gipio ef o'u plith hwy, a mynd ag ef i'r pencadlys. Y noson honno, safodd yr Arglwydd yn ei ymyl a dweud, “Cod dy galon! Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae'n rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.” Pan ddaeth yn ddydd, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn: aethant ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed dim nes y byddent wedi lladd Paul. Yr oedd mwy na deugain wedi gwneud y cydfwriad hwn. Aethant at y prif offeiriaid a'r henuriaid, a dweud, “Yr ydym wedi mynd ar ein llw mwyaf difrifol i beidio â phrofi dim bwyd nes y byddwn wedi lladd Paul. Rhowch chwi, felly, ynghyd â'r Sanhedrin, rybudd yn awr i'r capten, iddo ddod ag ef i lawr atoch, ar yr esgus eich bod am ymchwilio yn fanylach i'w achos. Ac yr ydym ninnau yn barod i'w ladd ef cyn iddo gyrraedd.” Ond fe glywodd mab i chwaer Paul am y cynllwyn, ac aeth i'r pencadlys, a mynd i mewn ac adrodd yr hanes wrth Paul. Galwodd Paul un o'r canwriaid ato, ac meddai, “Dos â'r llanc yma at y capten; y mae ganddo rywbeth i'w ddweud wrtho.” Felly cymerodd y canwriad ef, a mynd ag ef at y capten, ac meddai, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofyn imi ddod â'r llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i'w ddweud wrthyt.” Cymerodd y capten afael yn ei law, a mynd ag ef o'r neilltu a holi, “Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w ddweud wrthyf?” Meddai yntau, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti fynd â Paul i lawr yfory i'r Sanhedrin, ar yr esgus fod y rheini am holi yn fanylach yn ei gylch. Yn awr, paid â gwrando arnynt, oherwydd y mae mwy na deugain o'u dynion yn aros i ymosod arno; y maent wedi mynd ar eu llw i beidio â bwyta nac yfed nes y byddant wedi ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am dy ganiatâd di.” Yna anfonodd y capten y llanc ymaith, ar ôl gorchymyn iddo, “Paid â dweud wrth neb dy fod wedi rhoi gwybod imi am hyn.” Yna galwodd ato ddau ganwriad arbennig, a dweud wrthynt, “Paratowch ddau gant o filwyr i fynd i Gesarea, a saith deg o wŷr meirch a dau gan picellwr, erbyn naw o'r gloch y nos. Darparwch hefyd anifeiliaid, iddynt osod Paul arnynt a mynd ag ef yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw.” Ac ysgrifennodd lythyr i'r perwyl hwn: “Clawdius Lysias at yr Ardderchocaf Raglaw Ffelix, cyfarchion. Daliwyd y dyn hwn gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin cael ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda'm milwyr ac achubais ef, wedi imi ddeall ei fod yn ddinesydd Rhufeinig. Gan fy mod yn awyddus i gael gwybod pam yr oeddent yn ei gyhuddo, euthum ag ef i lawr gerbron eu Sanhedrin. Cefais ei fod yn cael ei gyhuddo ynglŷn â materion dadleuol yn eu Cyfraith hwy, ond nad oedd yn wynebu cyhuddiad oedd yn haeddu marwolaeth neu garchar. A chan imi gael ar ddeall y byddai cynllwyn yn erbyn y dyn, yr wyf fi ar unwaith yn ei anfon atat ti, wedi gorchymyn i'w gyhuddwyr hefyd gyflwyno ger dy fron di eu hachos yn ei erbyn ef.” Felly cymerodd y milwyr Paul, yn ôl y gorchymyn a gawsent, a mynd ag ef yn ystod y nos i Antipatris. Trannoeth, dychwelsant i'r pencadlys, gan adael i'r gwŷr meirch fynd ymlaen gydag ef. Wedi i'r rhain fynd i mewn i Gesarea, rhoesant y llythyr i'r rhaglaw, a throsglwyddo Paul iddo hefyd. Darllenodd yntau'r llythyr, a holi o ba dalaith yr oedd yn dod. Pan ddeallodd ei fod o Cilicia, dywedodd, “Gwrandawaf dy achos pan fydd dy gyhuddwyr hefyd wedi cyrraedd.” A gorchmynnodd ei gadw dan warchodaeth yn Praetoriwm Herod.