Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 2:14-41

Actau 2:14-41 BCND

Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel: “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw: tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb; a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau, a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion; hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion, yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd, ac fe broffwydant. A rhof ryfeddodau yn y nef uchod ac arwyddion ar y ddaear isod, gwaed a thân a tharth mwg; troir yr haul yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod; a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’ “Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: “ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod, ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades, nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’ “Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd: “ ‘Ni adawyd ef yn Hades, ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’ “Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono. Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw, nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’ “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.” Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?” Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.” Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.” Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau.