Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau. Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi. Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:
“ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:
tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;
a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;
bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,
a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,
yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,
ac fe broffwydant.
A rhof ryfeddodau yn y nef uchod
ac arwyddion ar y ddaear isod,
gwaed a thân a tharth mwg;
troir yr haul yn dywyllwch,
a'r lleuad yn waed,
cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;
a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’
“Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano:
“ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad,
canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer.
Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod,
ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith;
oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades,
nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth.
Hysbysaist imi ffyrdd bywyd;
byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’
“Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd:
“ ‘Ni adawyd ef yn Hades,
ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’
“Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono. Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud:
“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,
“Eistedd ar fy neheulaw,
nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’
“Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”