Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu cynnwrf nid bychan ynglŷn â'r Ffordd. Yr oedd gof arian o'r enw Demetrius, un oedd yn gwneud cysegrau arian i Artemis, ac felly'n cael llawer o waith i'w grefftwyr. Casglodd y rhain ynghyd, gyda'r gweithwyr o grefftau cyffelyb, a dywedodd: “Ddynion, fe wyddoch mai o'r fasnach hon y daw ein ffyniant ni. Yr ydych hefyd yn gweld ac yn clywed fod y Paul yma wedi perswadio tyrfa fawr, nid yn Effesus yn unig ond drwy Asia gyfan bron, a'u camarwain drwy ddweud nad duwiau mo'r duwiau o waith llaw. Yn awr, y mae perygl nid yn unig y daw anfri ar ein crefft, ond hefyd y cyfrifir teml y dduwies fawr Artemis yn ddiddim, a hyd yn oed y bydd hi, y dduwies y mae Asia gyfan a'r byd yn ei haddoli, yn cael ei hamddifadu o'i mawrhydi.”
Pan glywsant hyn, llanwyd hwy â dicter, a dechreusant weiddi, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.” Llanwyd y ddinas â'u cynnwrf, a rhuthrasant yn unfryd i'r theatr, gan lusgo gyda hwy gyd-deithwyr Paul, y Macedoniaid Gaius ac Aristarchus. Yr oedd Paul yn dymuno cael mynd gerbron y dinasyddion, ond ni adawai'r disgyblion iddo; a hefyd anfonodd rhai o uchel-swyddogion Asia, a oedd yn gyfeillgar ag ef, neges ato i erfyn arno i beidio â mentro i'r theatr. Yn y cyfamser, yr oedd rhai yn gweiddi un peth ac eraill beth arall, oherwydd yr oedd y cyfarfod mewn cynnwrf, ac ni wyddai'r rhan fwyaf i beth yr oeddent wedi dod ynghyd. Ond tybiodd rhai o'r dyrfa mai Alexander oedd yr achos, gan i'r Iddewon ei wthio ef i'r blaen. Gwnaeth yntau arwydd â'i law, gan ddymuno ei amddiffyn ei hun gerbron y dinasyddion. Ond pan ddeallwyd mai Iddew ydoedd, cododd un llef oddi wrthynt oll, a buont yn gweiddi am tua dwy awr, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.” Ond tawelodd clerc y ddinas y dyrfa, a dweud, “Bobl Effesus, pwy sydd heb wybod fod dinas yr Effesiaid yn geidwad teml Artemis fawr, a'r maen a syrthiodd o'r nef? Felly, gan na all neb wadu hyn, rhaid i chwithau fod yn dawel a pheidio â gwneud dim yn fyrbwyll. Yr ydych wedi dod â'r dynion hyn gerbron, er nad ydynt yn ysbeilwyr temlau nac yn cablu ein duwies ni. Gan hynny, os oes gan Demetrius a'i gyd-grefftwyr achos yn erbyn rhywun, y mae'r llysoedd barn yn cael eu cynnal ac y mae rhaglawiaid yno; gadewch i'r ddwy ochr gyhuddo ei gilydd yn ffurfiol. Ond os ydych am fynd â'r peth ymhellach, mewn cyfarfod rheolaidd o'r dinasyddion y mae i gael ei benderfynu. Yn wir, y mae perygl y cyhuddir ninnau o derfysg ynglŷn â'r cyfarfod heddiw, gan nad oes dim achos amdano, ac am hynny ni allwn roi cyfrif am y cynnwrf yma.” Ac â'r geiriau hyn daeth â'r cyfarfod i ben.