Byddai'n ymresymu yn y synagog bob Saboth, a cheisio argyhoeddi Iddewon a Groegiaid. Pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul ymroi yn llwyr i bregethu'r gair, gan dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia. Ond yr oeddent hwy'n dal i'w wrthwynebu a'i ddifenwi, ac felly fe ysgydwodd ei ddillad a dweud wrthynt, “Ar eich pen chwi y bo'ch gwaed! Nid oes bai arnaf fi; o hyn allan mi af at y Cenhedloedd.” Symudodd oddi yno ac aeth i dŷ dyn o'r enw Titius Jwstus, un oedd yn addoli Duw; yr oedd ei dŷ y drws nesaf i'r synagog. Credodd Crispus, arweinydd y synagog, yn yr Arglwydd, ynghyd â'i holl deulu. Ac wrth glywed, credodd llawer o'r Corinthiaid a chael eu bedyddio. Dywedodd yr Arglwydd wrth Paul un noson, trwy weledigaeth, “Paid ag ofni, ond dal ati i lefaru, a phaid â thewi; oherwydd yr wyf fi gyda thi, ac ni fydd i neb ymosod arnat ti i wneud niwed iti, oblegid y mae gennyf lawer o bobl yn y ddinas hon.” Ac fe arhosodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu gair Duw yn eu plith.
Darllen Actau 18
Gwranda ar Actau 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 18:4-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos