Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 18:18-28

Actau 18:18-28 BCND

Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio â'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno. Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu â'r Iddewon. A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd. Ond wedi ffarwelio gan ddweud, “Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn”, hwyliodd o Effesus. Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarch yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia, ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion. Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gŵr huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau. Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai. Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach. A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu, oherwydd yr oedd yn mynd ati'n egnïol i wrthbrofi dadleuon yr Iddewon, gan ddangos ar goedd trwy'r Ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.