Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, “Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld â'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt.” Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy; ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio â hwy. Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus; ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd. A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.
Darllen Actau 15
Gwranda ar Actau 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 15:36-41
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos