Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 15:1-29

Actau 15:1-29 BCND

Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: “Os nad enwaedir arnoch yn ôl defod Moses, ni ellir eich achub.” A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglŷn â'r cwestiwn yma. Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dröedigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr. Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy. Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, “Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses.” Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma. Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu. Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau; ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd. Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn? Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd.” Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy. Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, “Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi. Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw. Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno â hyn, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Ar ôl hyn dychwelaf, ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd, ailadeiladaf ei hadfeilion, a'i hatgyweirio, fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill, a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,’ medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn yn hysbys erioed.” “Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw, ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed. Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ef ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth.” Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, ddewis gwŷr o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwŷr blaenllaw ymhlith y credinwyr. Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: “Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion. Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu â'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn, yr ydym wedi penderfynu'n unfryd ddewis gwŷr a'u hanfon atoch gyda'n cyfeillion annwyl, Barnabas a Paul, dynion sydd wedi cyflwyno eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist. Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar. Penderfynwyd gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau beidio â gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn: ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel.”

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd