“Oherwydd y mae'n ysgrifenedig yn Llyfr y Salmau: “ ‘Aed ei gartrefle yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddo’, “a hefyd: “ ‘Cymered arall ei oruchwyliaeth.’ “Felly, rhaid i un o'r rhai a fu yn ein cwmni ni yr holl amser y bu'r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein plith ni, o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym, ddod yn dyst gyda ni o'i atgyfodiad ef.” Ystyriwyd dau: Joseff, a elwid Barsabas ac a gyfenwid Jwstus, a Mathias. Yna aethant i weddi: “Adwaenost ti, Arglwydd, galonnau pawb. Amlyga p'run o'r ddau hyn a ddewisaist i gymryd ei le yn y weinidogaeth a'r apostolaeth hon, y cefnodd Jwdas arni i fynd i'w le ei hun.” Bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Mathias, a chafodd ef ei restru gyda'r un apostol ar ddeg.
Darllen Actau 1
Gwranda ar Actau 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Actau 1:20-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos