O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw ynghynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i. Oherwydd nid ysbryd sy'n peri llwfrdra a roddodd Duw i ni, ond ysbryd sy'n peri nerth a chariad a hunanddisgyblaeth. Felly, na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd, na chywilydd ohonof fi, ei garcharor ef; ond cymer dy gyfran o ddioddefaint dros yr Efengyl, trwy'r nerth yr ydym yn ei gael gan Dduw. Ef a'n hachubodd ni, a'n galw â galwedigaeth sanctaidd, nid ar sail ein gweithredoedd ond yn unol â'i arfaeth ei hun a'i ras, y gras a roddwyd inni yng Nghrist Iesu cyn dechrau'r oesoedd, ond a amlygwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Gwaredwr, Crist Iesu. Oherwydd y mae ef wedi dirymu marwolaeth, a dod â bywyd ac anfarwoldeb i'r golau trwy'r Efengyl. I'r Efengyl hon yr wyf fi wedi fy mhenodi'n bregethwr, yn apostol ac yn athro. Dyma'r rheswm, yn wir, fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd o'r peth, oherwydd mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac rwy'n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw'n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i'm gofal. Cymer fel patrwm i'w ddilyn y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu. Cadw'n ddiogel, trwy nerth yr Ysbryd Glân sy'n trigo ynom, y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i'th ofal.
Fel y gwyddost, y mae pawb yn Asia wedi cefnu arnaf, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. Ond dangosed yr Arglwydd drugaredd tuag at deulu Onesifforus, oherwydd cododd ef fy nghalon droeon, ac ni bu arno gywilydd fy mod mewn cadwynau. Yn wir, pan ddaeth i Rufain, aeth i drafferth fawr i chwilio amdanaf, a daeth o hyd imi. Rhodded yr Arglwydd iddo ddod o hyd i drugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw. Fe wyddost ti yn dda gymaint o wasanaeth a roddodd ef yn Effesus.