Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd â'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun. Trwy hyn y mae ef wedi rhoi i ni addewidion gwerthfawr dros ben, er mwyn i chwi trwyddynt hwy ddianc o afael llygredigaeth y trachwant sydd yn y byd, a dod yn gyfranogion o'r natur ddwyfol. Am yr union reswm yma, felly, gwnewch eich gorau glas i ychwanegu rhinwedd at eich ffydd, gwybodaeth at rinwedd, hunanddisgyblaeth at wybodaeth, dyfalbarhad at hunanddisgyblaeth, duwioldeb at ddyfalbarhad, brawdgarwch at dduwioldeb, a chariad at frawdgarwch. Oherwydd os yw'r rhain gennych, ac ar gynnydd, byddant yn peri nad diog a diffrwyth fyddwch yn eich adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist. Ond hebddynt y mae rhywun mor fyr ei olwg nes bod yn ddall, heb ddim cof ganddo am y glanhad oddi wrth ei bechodau gynt. Dyna pam, gyfeillion, y dylech ymdrechu'n fwy byth i wneud eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr. Oherwydd os gwnewch hyn, ni lithrwch byth. Felly y rhydd Duw ichwi, o'i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist.
Darllen 2 Pedr 1
Gwranda ar 2 Pedr 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Pedr 1:3-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos