Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei ŵydd a dweud, “Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel.” Dywedodd Eliseus wrtho, “Cymer fwa a saethau,” a gwnaeth yntau hynny. Yna meddai wrth frenin Israel, “Cydia yn y bwa”; gwnaeth yntau, a gosododd Eliseus ei ddwylo ar ddwylo'r brenin. Yna dywedodd, “Agor y ffenestr tua'r dwyrain.” Agorodd hi, a dywedodd Eliseus, “Saetha.” A phan oedd yn saethu, dywedodd, “Saeth buddugoliaeth i'r ARGLWYDD, saeth buddugoliaeth dros Syria! Byddi'n taro'r Syriaid yn Affec ac yn eu difa.” Dywedodd wedyn, “Cymer y saethau,” a chymerodd yntau hwy. Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Taro hwy ar y ddaear.” Trawodd yntau deirgwaith ac yna peidio. Digiodd gŵr Duw wrtho a dweud, “Pe bait wedi taro pump neu chwech o weithiau, yna byddit yn taro Syria yn Affec nes ei difa; ond yn awr, teirgwaith yn unig y byddi'n taro Syria.”
Darllen 2 Brenhinoedd 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 13:14-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos