Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu. Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion, y mae ei haelioni yn para am byth.” Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i'r heuwr a bara iddo'n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau; bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu.
Darllen 2 Corinthiaid 9
Gwranda ar 2 Corinthiaid 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 9:7-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos