Nid fel gorchymyn yr wyf yn dweud hyn, ond i brofi didwylledd eich cariad chwi trwy sôn am ymroddiad pobl eraill. Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef. Yn hyn o beth, rhoi fy marn yr wyf, a hynny sydd orau i chwi, y rhai a fu'n gyntaf, nid yn unig i weithredu ond i ewyllysio gweithredu, er y llynedd. Yn awr gorffennwch y gweithredu yn ôl eich gallu, fel y bydd y gorffen yn cyfateb i eiddgarwch eich bwriad. Oherwydd os ydych yn eiddgar i roi, y mae hynny'n dderbyniol gan Dduw, ar sail yr hyn sydd gan rywun, nid yr hyn nad yw ganddo. Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi, ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig.”
Darllen 2 Corinthiaid 8
Gwranda ar 2 Corinthiaid 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 8:8-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos